Chwefror 1st, 2022

Canolfan Adnoddau Gymunedol Phil Bennett OBE

Gwybodaeth am y Neuadd

Cyfeiriad:  Canolfan Adnoddau Gymunedol Phil Bennett OBE, Tir Hamdden Felinfoel, oddi ar Heol Ynyswen, Felinfoel, Llanelli, SA14 8BE.

Wedi’i lleoli o fewn Tir Hamdden Felinfoel, Caeau Brenin Siors V, mae Canolfan Adnoddau Phil Bennett OBE yn cynnwys gofod ar gyfer swyddfa ac ystafelloedd newid i Glwb Criced Felinfoel, timoedd Pêl droed a Rygbi. Mae’r neuadd gymunedol, a enwir yn Neuadd Bro Las, wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf ac mae’n cynnwys cegin fodern. Mae parcio a mynediad i’r anabl ar gael yn y neuadd.

Cost llogi’r neuadd: Y costau yn amrywio, lawr lwythwch y prisiau llogi yma.  Fe allwch chi logi’r neuadd gyda Chredydau Amser ar raddfa o 2 Credyd Amser yr awr.

Archebu’r neuadd: cysylltwch â’r ysgrifennydd archebu ar 07813160113.

***Mewn argyfwng, sgroliwch i lawr am wybodaeth mynediad i’r adeilad***

 

Gweithgareddau Rheolaidd yn y neuadd:

Diweddarwyd diwethaf, mis Ionawr, 2026

Dydd Llun

  • 5-6pm: Enfysau  (5-7 oed) – AMSER TYMOR YSGOL YN UNIG
  • 6-7pm: Brownies (7-10 oed) – AMSER TYMOR YSGOL YN UNIG
  • 7-8pm: Geidiaid: (10-14 oed) – AMSER TYMOR YSGOL YN UNIG
  • 8-9pm: Ceidwaid (Rangers) (14-18 oed) – AMSER TYMOR YSGOL YN UNIG

Dydd Mawrth

  • 4-7pm: Bocsio Cic

Dydd Mercher

  • 12-2pm: Sefydliad Crefft
  • 2.30-4pm: Prifysgol y Drydedd Oes (BOB AIL A THRYDYDD DYDD MERCHER Y MIS)
  • 5-9pm: Slimming World

Dydd Iau

  • 8am-llam: Slimming World
  • 5-7pm: Bocsio Cic

Dydd Gwener

  • 5pm-7pm – Balet i blant

Dydd Sadwrn

  • 9-12pm: Ysgol Bwyleg yn Llanelli – AMSER TYMOR YSGOL YN UNIG
  • 12-5.30pm: Criced (YN YSTOD Y TYMOR)

Dydd Sul

  • 9-12pm: Ysgol Bwyleg yn Llanelli – AMSER TYMOR YSGOL YN UNIG

Gwybodaeth arall

Ewch i dudalen Facebook y Ganolfan yma

 

MANYLION MYNEDIAD BRYS

Mewn argyfwng, fel tân, llifogydd, mynediad heb awdurdod amheus, fandaliaeth, neu ddigwyddiad tebyg, cysylltwch â’r gwasanaethau brys yn y lle cyntaf drwy ffonio 999 neu 101, yn ôl yr angen.

I roi gwybod am ddigwyddiad i’r Cyngor, neu i gael mynediad i’r adeilad yn ystod argyfwng, cysylltwch ag un o’r canlynol:

Cyngor Gwledig Llanelli ar 01554 774103 yn ystod yr amseroedd isod.

Dydd Llun i Ddydd Iau 08:45 – 13:00 a 13:45 – 17:00

Dydd Gwener 08:45 – 13:00 a 13:45 – 16:30

Y tu allan i’r oriau hyn, ffoniwch 07967 040 968