Trefniadau Coronafeirws a Busnes y Cyngor **NEWYDDION DIWEDDARAF 17/12/2020**
Bydd cyfyngiadau cenedlaethol pellach yn dod i rym o Ddydd Llun 28 Rhagfyr 2020 er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws trwy’r hyn y bydd Cymru yn symud i drefniadau clo haen pedwar. Bydd y cyfyngiadau yn parhau mewn grym am gyfnod o leiaf tair wythnos ac yna bydd adolygiad pellach yn digwydd. Yn ystod yr amser hwn ac yn ystod y cyfnod cyfamserol rhwng nawr a 28 Rhagfyr lle bydd disgwyl i bobol weithio o adref lle bydd hynny’n bosibl, bydd swyddfeydd y Cyngor yn cau i’r cyhoedd o Ddydd Llun 21 Rhagfyr. Sut bynnag bydd pob gwaith hanfodol gan y cyngor yn parhau, yn cynnwys peth gweithgareddau yn y swyddfa, gwasanaethau cynnal a chadw tir a chynnal angladdau.
Caiff gwasanaeth derbynfa’r Cyngor yn Adeiladau Vauxhall ei fonitro o bell ac anogir chi i gysylltu â’r cyngor trwy ffonio 01554 774103 neu trwy e-bostio yn [email protected]
Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn parhau o dan gapasiti cyfyngedig ond nid yw cyfarfodydd y pwyllgorau yn digwydd o hyd ar hyn o bryd. Mae rôl ddinesig y Cadeirydd wedi ei hatal dros dro ac felly mae pob ymrwymiad wedi eu gohirio neu eu canslo er mwyn cyfyngu ar weithgaredd cymdeithasol a rhyngweithiol nad yw’n hanfodol o fewn y gymuned.
Mynwent Ardal Llanelli
Mae tir y fynwent ar agor i ymwelwyr. Mae rhyddid i bobol ddefnyddio eu cerbydau i fynd i mewn i’r fynwent yn ystod oriau agor arferol. Uchafswm y nifer o bersonau all fynychu gwasanaethau angladdol yw 30 o bobol. Adolygir y sefyllfa yn rheolaidd. Caniateir i ymwelwyr ymweld â’r fynwent i ddangos parch i berson ymadawedig ac fe’u hatgoffir i gadw at ofynion y pellter cymdeithasol o ddau fetr.
Bydd swyddfa’r fynwent ar gau i aelodau’r cyhoedd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau, sut bynnag gellir cysylltu ag adran weinyddol a rheoli’r fynwent trwy ffonio 01554 773710neu trwy e-bost : llanelli.ceme[email protected] neu trwy’r post: Mynwent Ardal Llanelli, Heol Abertawe, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3EX .
Neuaddau Cymunedol
Bydd y mwyafrif o neuaddau Cymunedol sy’n berchen i’r Cyngor yn cau ac eithrio i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Ardaloedd chwarae plant, caeau chwarae a pharciau
Bydd ardaloedd chwarae a pharciau sy’n berchen y Cyngor yn parhau ar agor. Dilynwch y canllawiau ar arwyddion yr ardaloedd chwarae er mwyn eich diogelwch chi a diogelwch eraill..
Caiff chwaraeon tîm a gweithgareddau sydd wedi eu trefnu eu hatal hyd nes yr hysbysir yn wahanol
Gwybodaeth ddefnyddiol
Am wybodaeth bellach am y Coronafeirws i bobol yn ardal Llanelli Wledig, gall y gwefannau canlynol fod yn ddefnyddiol:
Iechyd Cyhoeddus Cymru https://phw.nhs.wales/
Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/coronafeirws
Cyngor Sir Gar https://www.carmarthenshire.gov.wales
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda https://hduhb.nhs.wales/
GIG Llinell Cymorth: 111 https://111.wales.nhs.uk/default.aspx?locale=cy
Gwybodaeth Cymorth Gymunedol http://www.cavs.org.uk/coronavirus-information/
Dosbarthu Bwyd, Siopa, casglu Meddyginiaeth, a chefnogaeth gyffredinol yn ystod cyfnod COVID-19 cliciwch yma – wedi’i ddiweddaru Tachwedd 2020
Croeso i Gyngor Gwledig Llanelli
Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn un o naw cyngor cymuned yn ardal Llanelli. Mae’r Cyngor, a ffurfiwyd yn ystod ad-drefnu Llywodraeth Leol ym mis Ebrill 1974, yn cynnwys 21 aelod etholedig, ac mae’n cael ei gynghori gan Glerc y Cyngor.
Mae ardal ddaearyddol y Cyngor tua 26.78 milltir sgwâr, gyda phoblogaeth o 22,800 ac mae’n amgylchynu canol tref Llanelli. Mae ei ffiniau yn ymestyn o Aber y Llwchwr yn y dwyrain i Borth Tywyn yn y gorllewin ac mae’n ymylu ar Gwm Gwendraeth yn y gogledd. Mae’r ardal yn cynnwys pentrefi ac ardaloedd Bynie, Cwmbach, Cynheidre, Dafen, Felinfoel, Pum Heol, Ffwrnes, Llwynhendy, Ponthenri, Pontiets (rhan yn unig), Pwll, Sandy a Dyffryn y Swistir.