Cyfarfodydd y Cyngor

Rhaid i’r cyngor wneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer ei gyfarfodydd i sicrhau y gallant ddigwydd mewn modd sy’n galluogi pobl nad ydynt yn yr un lle i gyfarfod.

O dan y trefniadau hyn, rhaid gallu cynnal cyfarfodydd o bell (cyfarfodydd aml-leoliad) ond nid oes angen cynnal cyfarfodydd mewn ffordd arbennig. Mater i’r cyngor yw penderfynu a ydynt yn cael eu cynnal o bell neu’n gyfan gwbl wyneb yn wyneb.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r cyngor sicrhau bod cyfranogwyr y cyfarfodydd (cynghorwyr, gwesteion gwadd, aelodau’r cyhoedd a’r wasg) yn gallu ymuno â chyfarfodydd o bell hyd yn oed os mai cyfarfodydd wyneb yn wyneb corfforol yw’r modd dewisol. Ni chaniateir i’r cyngor benderfynu y bydd ei holl gyfarfodydd (mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd pwyllgor ac is-bwyllgor) yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl wyneb yn wyneb.

Bydd holl gyfarfodydd y cyngor (gan gynnwys cyfarfodydd pwyllgor ac is-bwyllgor) yn cael eu cynnal mewn modd sy’n galluogi cyfranogwyr nad ydynt yn yr un lle i gyfarfod, gyda’r gofyniad lleiaf bod aelodau’r cyngor yn gallu clywed a chael eu clywed gan gyfranogwyr eraill y cyfarfod.

Rhybudd o gyfarfodydd

O leiaf dri diwrnod clir (heb gynnwys y diwrnodau cyhoeddi a chyfarfod) cyn cynnal cyfarfod o’r cyngor, neu os caiff y cyfarfod ei gynnull ar fyr rybudd, ar yr adeg y caiff ei gynnull, bydd hysbysiad o amser a lleoliad y cyfarfod yn cael eu harddangos ar y wefan hon ac ar hysbysfwrdd cyhoeddus y cyngor. Fodd bynnag, gall cadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor alw cyfarfod ar rybudd o 24 awr os ystyrir bod mater i’w drafod yn fater brys.

Cyhoeddir manylion trefniadau cyfarfodydd y cyngor ar y wefan hon ac ar yr hysbysfwrdd cyhoeddus. Sgroliwch i lawr i weld amserlen y cyfarfodydd sydd i ddod.

Mynediad i gyfarfodydd

Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 Mae Adran 1, a estynnwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Adran 100, yn darparu y bydd cyfarfodydd y cyngor (gan gynnwys pwyllgorau ac is-bwyllgorau) yn agored i’r wasg a’r cyhoedd.

Os hoffech fynychu cyfarfod penodol, cysylltwch â Chlerc y Cyngor drwy glicio yma, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt yma neu gallwch ffonio swyddfa’r cyngor yn ystod oriau gwaith arferol.

Bydd amrywiaeth o opsiynau ar gael i chi i fod yn bresennol yn bersonol ym mhrif leoliad y cyfarfod neu o bell (drwy wahoddiad electronig neu dros y ffôn) os dymunwch.

Yn achlysurol yn ystod cyfarfodydd gwneir darpariaeth ar gyfer gwahardd y wasg a’r cyhoedd trwy benderfyniad pan fo busnes cyfrinachol yn cael ei ystyried (neu am resymau arbennig eraill a nodir yn y penderfyniad) ac y byddai cyhoeddusrwydd yn niweidiol i fudd y cyhoedd. Fel rheol gyffredinol ni fyddai eitemau megis materion staffio, penderfyniadau tendro, trafodaethau cytundebol, achosion cyfreithiol a materion neu anghydfodau sensitif yn cael eu trafod yn gyhoeddus.

Cyfranogiad cyhoeddus

Mae’n ofynnol i’r cyngor hwyluso cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd llawn y cyngor. Nid yw hyn yn golygu y gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan mewn dadl, ond mae’n rhaid rhoi cyfle rhesymol iddynt ar ddechrau’r cyfarfod i ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau am y busnes sydd i’w drin a’i drafod yn y cyfarfod ac sy’n agored i drafodaeth gyhoeddus (ni chaiff busnes cyfrinachol ei gynnwys). Rhaid i’r sawl sy’n llywyddu cyfarfod y cyngor llawn (y cadeirydd fel arfer) roi cyfle rhesymol i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau am unrhyw fusnes i’w drafod yn y cyfarfod, oni bai bod gwneud hynny’n debygol o niweidio natur effeithiol y cyfarfod. Nid yw cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd y cyngor llawn yn berthnasol i gyfarfodydd pwyllgor ac is-bwyllgorau.

Atodlenni Cyfarfodydd y Cyngor

Isod mae rhestr o gyfarfodydd y cynghorau sydd ar ddod. Bydd agenda sy’n cynnwys papurau’r cyfarfod yn ymddangos wrth ymyl y cyfarfod perthnasol bum niwrnod cyn y dyddiad y disgwylir iddo gael ei gynnal. Mae’r rhain ar gael i’w llwytho i lawr.

Date / Dyddiad Schedule / Amserlen Agenda
Jul 7 2025 Is-Pwyllgor Lles a Hamdden Agenda PDF
Jul 8 2025 Cyngor Agenda PDF
Jul 14 2025 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Jul 15 2025 Pwyllgor Lles a Hamdden
Jul 16 2025 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Jul 30 2025 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Jul 31 2025 Pwyllgor Ymgynhorol Datblygiad a Dysg
Aug 4 2025 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Aug 26 2025 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Sep 9 2025 Cyngor
Sep 15 2025 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Sep 16 2025 Pwyllgor Lles a Hamdden
Sep 17 2025 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Sep 24 2025 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Oct 6 2025 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Oct 14 2025 Cyngor
Oct 15 2025 Pwylgor Polisi ac Adnoddau
Oct 21 2025 Pwyllgor Lles a Hamdden
Oct 27 2025 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Oct 29 2025 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Oct 30 2025 Pwyllgor Ymgynhorol Datblygiad a Dysg
Nov 11 2025 Cyngor
Nov 17 2025 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Nov 18 2025 Pwyllgor Lles a Hamdden
Nov 19 2025 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Nov 26 2025 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Dec 8 2025 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Dec 9 2025 Cyngor
Dec 16 2025 Pwyllgor Lles a Hamdden
Dec 17 2025 Pwyllgor Dinesig a Seremoniol
Dec 17 2025 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Dec 22 2025 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Dec 22 2025 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Jan 12 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Jan 13 2026 Cyngor
Jan 20 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Jan 21 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Jan 28 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Jan 29 2026 Pwyllgor Ymgynhorol Datblygiad a Dysg
Feb 2 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Feb 10 2026 Cyngor
Feb 17 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Feb 18 2026 Pwyllgor Dinesig a Seremoniol
Feb 18 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Feb 23 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Feb 25 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Mar 10 2026 Cyngor
Mar 16 2026 Pwyllgor Cynllinio a Chyswllt
Mar 17 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Mar 18 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Mar 25 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Apr 8 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Apr 14 2026 Cyngor
Apr 15 2026 Pwyllgor Dinesig a Seremoniol
Apr 15 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Apr 21 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Apr 27 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Apr 29 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Apr 30 2026 Pwyllgor Ymgynhorol Datblygiad a Dysg
May 12 2026 Cyfarfod Blynyddol
May 12 2026 Cyngor
May 18 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
May 19 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
May 20 2026 Pwyllgor Polisi ad Adnoddau
May 27 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Jun 8 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Jun 9 2026 Cyngor
Jun 16 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Jun 17 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Jun 24 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Jun 29 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Jul 14 2026 Cyngor
Jul 15 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Jul 20 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Jul 21 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Jul 29 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Jul 30 2026 Pwyllgor Ymgynhorol Datblygiad a Dysg
Aug 10 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt