Hwb Casglu Sbwriel

Mae’r Cyngor wedi ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus a Caru Cymru i ddarparu offer casglu sbwriel i unigolion, grwpiau, ysgolion a busnesau sydd â diddordeb. Mae’r offer yn cynnwys codwyr sbwriel, cylchoedd, festiau hi-vis a bagiau bin. Mae’r cit hefyd yn cynnwys yr holl ganllawiau iechyd a diogelwch angenrheidiol. Cyn benthyca unrhyw offer, rhaid i chi gwblhau Cytundeb Benthyciad Casglu Sbwriel ac Asesiad Risg a ddarperir.

Cyfrifoldeb y benthyciwr yw dychwelyd yr eitemau a fenthyciwyd erbyn y dyddiad y cytunwyd arno, yn ei gyflwr gwreiddiol. Efallai y bydd angen talu am unrhyw doriadau neu golledion a disgwylir i fenthycwyr i hysbysu’r benthyciwr am unrhyw ladrad, colled neu ddifrod cyn gynted â phosibl i leihau’r risg o darfu ar fenthycwyr eraill.

Benthycir yr offer yn rhad ac am ddim ac fe’i ariennir gan Llywodraeth Cymru. Mae offer ar gael gan Gyngor Gwledig Llanelli, Adeiladau Vauxhall, Vauxhall, Llanelli, SA15 3BD.

Os oes gennych ddiddordeb mewn benthyg yr offer, lawrlwythwch, cwblhewch a dychwelwch y Ffurflen Benthyciad Offer isod i swyddfa Vauxhall y Cyngor neu drwy e-bost i [email protected]

Ffurflen Benthyciad Offer

Weithiau ni fydd y cit sydd ei angen arnoch ar gael gan y bydd wedi’i archebu’n barod. Fodd bynnag, mae canolfannau casglu sbwriel eraill gerllaw a all helpu. I ddarganfod ble maen nhw, defnyddiwch y map rhyngweithiol sydd ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/hybiau-codi-sbwriel/

Print Friendly, PDF & Email