Cynllun Lle Cyfan 2015 : 2030

Cefndir. Mae’r Cynllun Lle Cyfan yn ganlyniad cyfres o ymgynghoriadau a wnaed o fewn y gymuned ar ddechrau 2015. Fe gymeron ni rhan mewn naw gweithdy cymunedol ar draws yr ardal wledig, cynnal arolwg ar lein a hefyd holi nifer o gyflogwyr amlwg lleol yn yr ardal. Yn y gweithdai cymunedol, gofynnwyd i bobol leol i nodi achosion lleol allweddol a syniadau i fynd i’r afael â nhw ac yna blaenoriaethu’r rhain fel grŵp. Mae’r Cynllun Lle Cyfan wedi cipio’r wybodaeth yma ar gyfer pob ward ac wedi gosod nifer o ymyriadau all helpu i fynd i’r afael â’r achosion a godwyd yn weithredoedd positif sy’n unol â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Beth yw “Lle Cyfan”? Mae Lle Cyfan yn ffordd o helpu pawb i gydweithio i wella bywydau ein poblogaeth leol, trwy ei ddatblygiad cynaliadwy.  Mae’n bwriadu cynrychioli anghenion ei chymunedau a chymryd cyfrifoldeb wrth drefnu ymateb cydlynol i ddiwallu’r anghenion hyn.

I lawrlwytho copi o’r cynllun, cliciwch yma

Print Friendly, PDF & Email