50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Adroddiad Blynyddol Cyngor

ADRODDIADAU BLYNYDDOL

Mae gan y cyngor ddyletswydd statudol i baratoi a chyhoeddi dau adroddiad blynyddol cyhoeddus a hefyd adroddiad cynllun gweithredu bioamrywiaeth unwaith bob tair blynedd i fodloni’r gofynion deddfwriaethol canlynol:

Mae Adran 40 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni amcanion llesiant lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin. Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol (31 Mawrth) y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor baratoi a chyhoeddi adroddiad cynllun unwaith bob tair blynedd yn nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu gwytnwch. Rhaid cyhoeddi adroddiad cynllun nesaf y cyngor heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2022.

Mae Adran 52 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol (31 Mawrth), baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar flaenoriaethau, gweithgareddau a chyflawniadau’r cyngor dros y flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o elfennau gorgyffwrdd yn gysylltiedig â chynhyrchu’r adroddiadau hyn. Am resymau ymarferoldeb ac i osgoi dyblygu, mae’r cyngor wedi penderfynu paratoi un adroddiad blynyddol cyfansawdd i fodloni ei ddyletswyddau adrodd deddfwriaethol. Caniateir i’r cyngor wneud hyn yn hytrach na chynhyrchu tri adroddiad unigol

Mae strwythur yr adroddiad blynyddol cyfansawdd wedi’i gynllunio i adlewyrchu trefn gronolegol y broses o roi’r gofynion adrodd deddfwriaethol ar waith yn seiliedig ar pryd y cyflwynwyd y dyletswyddau adrodd am y tro cyntaf i’r sector cynghorau lleol ac mae’n cynnwys tair rhan.

RHAN 1 – Cyfraniad y cyngor at gefnogi’r amcanion llesiant lleol ar gyfer yr ardal (dyletswydd adrodd Adran 40 (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015));

RHAN 2 – Cyfraniad y cyngor at gefnogi a hyrwyddo bioamrywiaeth leol (dyletswydd adrodd Adran 6 (Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016)); a

RHAN 3 – Adolygiad o dasgau a gweithgareddau allweddol y cyngor a gyflawnwyd dros y flwyddyn flaenorol (dyletswydd adrodd Adran 52 (Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021))

Mae’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23 ar gael i’w lawrlwytho yma.

 

 

 

Adroddiadau Blynyddol Blaenorol

Adroddiad Blynyddol 2021/22

I weld y adroddiad 2021/22, cliciwch yma.

Adroddiad Blynyddol 2020/21

I weld y adroddiad 2020/21, cliciwch yma.

Adroddiad Blynyddol 2019/20

I weld y adroddiad 2019/20, cliciwch yma.

Adroddiad Blynyddol 2018/19

Cliciwch yma i lawrlwytho’r adroddiad am 2018/19

Print Friendly, PDF & Email