Trosglwyddo Asedau

CYNGOR GWLEDIG LLANELLI A CHYNGOR TREF LLANELLI YN GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH AM DROS 42 MLYNEDD AC YN CYFRIF

(TROSGLWYDDO ASEDAU- ASTUDIAETH ACHOS)

Ym mis Tachwedd 2016, cysylltodd Cyngor Tref Llanelli â Chyngor Gwledig Llanelli ynglŷn â’r posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw tir i’r Cyngor Tref i gefnogi sawl parc oedd i’w trosglwyddo oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin. Cytunodd y Cyngor Gwledig i helpu oherwydd ei fod eisoes yn cynnal a chadw mannau agored a pharciau am sawl blwyddyn ac roedd mewn lle da i gynnig cymorth.

CYD-DESTUN

Mae cydweithio yn y sector cyhoeddus yn beth arferol yng Nghymru ac anogir hynny gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi ei agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus.   Caiff cyrff cyhoeddus o hyd eu herio i gydweithio gydag ystod o randdeiliaid i drosglwyddo gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol, gan ddefnyddio modelau trosglwyddo gwahanol ac ar draws ffiniau awdurdodau lleol. Mae hyn mewn cyferbyniad ac yn symudiad arwyddocaol oddi wrth ddulliau traddodiadol o drosglwyddo gwasanaethau sydd ynghlwm wrth ffiniau cymunedol ac sy’n gyfarwydd iawn i’r cyhoedd. Mae gweithio gyda’n gilydd yn yriant allweddol Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Gynghorau Gwledig a Thref i weithredu’n gynaliadwy ac i weithio tuag at hyrwyddo egwyddorion datblygiad cynaliadwy.

Yn 2015 comisiynodd y Cyngor Gwledig gynllun lle cyfan. Prif swyddogaeth y cynllun  oedd adnabod y nifer o ymyriadau lleol sy’n cael effaith ar les cyffredinol ac ansawdd bywyd y boblogaeth. Un o’r ymyriadau oedd diogelu mannau agored a gwyrdd yn ardal Llanelli Wledig. Adeg ffurfio’r cynllun roedd pryderon difrifol lled eang y gellid colli nifer o barciau, caeau chwarae, a mannau agored eraill ac ardaloedd chwarae oherwydd na allai Cyngor Sir Caerfyrddin fforddio i barhau i gynnal y gwasanaethau hyn.

Ynghanol y cefndir hwn, ysgrifennodd y Cyngor Sir at bob un o’r 72 cynghorau cymunedol a thref (sy’n rhan o’r sir) yn esbonio ei anawsterau ariannu a’u gwahodd hwy i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am barciau a chaeau chwarae erbyn 31 Mawrth 2016, fel arall roedd bygythiad y byddai’r cyfleusterau hamdden yn cael eu cau. Ysgogwyd cynghorau lleol i gwblhau trosglwyddiad cyfreithiol o’r asedau cymunedol hyn erbyn 31 Mawrth 2017.

Cyn ystyried trosglwyddo’r parciau a’r caeau chwarae hyn, cyflawnodd y ddau gyngor llawer o waith rhagarweiniol arwyddocaol i fodloni ymroddiad dyladwy. Roedd y gwaith hwn yn cymryd llawer o amser ond roedd yn canolbwyntio ar:

  • Pwerau i ddarparu’r gwasanaeth (yn cynnwys model trosglwyddo) ;
  • Chwiliadau cyfreithiol o’r safleoedd (yn cynnwys penodi cyfreithiwr i helpu)
  • Rheoli risg (yn cynnwys iechyd a diogelwch ac yswiriant)
  • Dadansoddiad gallu a chapasiti;
  • Cynllunio adnoddau (yn cynnwys sgiliau gweithlu, offer a deunyddiau);
  • Gwerthusiad ariannol ac effaith ar yr archebiant;
  • Materion cydymffurfiad cyfreithiol a pherchnogaeth;
  • Oblygiadau tymor hir;
  • Cynaladwyedd ac ystyriaethau lles;
  • Cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu;
  • Cyfleoedd i gydweithio;
  • Mesurau ataliol ac ystyriaethau eraill.

Yn fuan ar ôl yr ymarfer hwn, cytunodd y cynghorau i drosglwyddo nifer o barciau ac ardaloedd chwarae oddi wrth y Cyngor Sir erbyn y dyddiad terfynol o 31 Mawrth 2017.  Sut bynnag, a chyn i’r Cyngor Tref gysylltu am gymorth, dechreuodd y cynghorau weithio mewn partneriaeth gyntaf yn 1975 pan lunion nhw bwyllgor ar y cyd i oruchwylio prynu a rheoli Mynwent Ardal Llanelli. Yn ddiweddar arwyddodd y cynghorau Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gydnabod y trefniant cydweithio hirsefydlog hwn er mwyn rheoli’n well weithgareddau’r cyd bwyllgor ac i uno ei rôl a’i berthynas gyda’r rhiant gynghorau wrth symud ymlaen.  Sut bynnag, roedd y Memorandwm hwn hefyd yn cydnabod y cyd-awydd i fentro ar drefniant cydweithio newydd i reoli a chynnal parciau a chaeau chwarae oedd wedi eu trosglwyddo i’r ddau gyngor oddi wrth y Cyngor Sir o dan ei raglen trosglwyddo asedau. I’r perwyl hwn mae’r Cyngor Gwledig bellach yn darparu cyngor proffesiynol a chefnogaeth i’r Cyngor Tref ynglŷn â phob mater sy’n perthyn i gynnal a chadw tiroedd wedi’i deilwrio i fanyleb cynnal y cytunwyd arno.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn sefydlu’r termau sylfaenol a ddefnyddir wrth reoli’r fynwent a gwasanaethau cynnal a chadw tir. Rheolir y ddwy ardal gwasanaeth gan gytundebau lefel gwasanaeth (SLAs) gwahanol sy’n ffurfio rhan o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ac yn diffinio rôl a chyfraniad pob cyngor parthed yr ardaloedd gwasanaeth hynny.

Ffurfir yr SLAs ar sail cleient a chontractwr a thrwy hyn mae Cyngor y Dref yn gleient a’r Cyngor Gwledig yn gontractwr. Cytunodd y cynghorau i gynnwys y mecanwaith codi tâl yn yr SLAs yn ogystal â lefel y treuliau i’w hadennill o dan y cytundebau, gan adnabod yr ymrwymiad a’r risg yr ymgymerwyd â hwy gan y Cyngor Gwledig wrth orfod recriwtio adnoddau ychwanegol, prynu peiriannau ac offer ychwanegol i ddarparu’r gwasanaeth; amser rheoli gyda threfniadau cefnogaeth swyddfa ac mewn goruchwylio’r trefnu a gweinyddu’r rhaglen arfaethedig a gynlluniwyd yn cynnwys yr amser a gymerwyd i ddarparu cefnogaeth gyffredinol a chyngor, y cyfan yn cael ei gostio i’r Cyngor Tref ar sail barhaus.

Trefnwyd cynllun dirprwyo i alluogi’r Cyngor Tref i ryddhau ei rheolaeth o’r fynwent a chynnal a chadw tir i’r Cyngor Gwledig er mwyn iddo reoli’r gwasanaeth ar ran y Cyngor Tref. Priodolwyd hyn gyda’r ddealltwriaeth fod gan y Cyngor Gwledig y cymwysterau angenrheidiol, y profiad a’r adnoddau i ddarparu’r gwasanaethau i’r Cyngor Tref.

NODAU A BUDDION

Prif nod y bartneriaeth yw gwneud defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau. Fel mesur ychwanegol, cytunodd y cynghorau i ddefnyddio gwasanaethau’r staff a gweithlu cynnal a chadw’r fynwent a gyflogir ym Mynwent Ardal Llanelli i gyfuno a gweithio gyda gweithlu’r Cyngor Gwledig i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw tir cynaliadwy i’r ddau gyngor. Nid yn unig mae’r trefniant hwn wedi arbed llawer o arian mae hefyd wedi helpu i gynnal a diogelu swyddi.

Mae rhannu adnoddau wedi trosglwyddo ateb gweithredol mwy cynaliadwy ac effeithiol ar draws ardal ehangach nag sydd wedi bod yn bosibl cyn hyn. Mae‘r trefniant o gydweithio wedi arbed llawer o amser a gwariant i’r Cyngor Tref oherwydd nad oedd angen recriwtio eu tîm cynnal a chadw tir eu hunain yn ogystal â’r personél medrus ac arbenigol angenrheidiol oedd eu hangen i drosglwyddo’r gwasanaethau. Mae hefyd wedi arbed gorfod prynu peiriannau ac offer cynnal a chadw tir ychwanegol.   Mewn gwirionedd, mae cryn ddyblygiad wedi’i osgoi trwy rannu adnoddau  Mae’r Cyngor Gwledig hefyd wedi elwa a bydd yn gweld cynnyrch sylweddol o incwm i helpu i dalu’r costau yn yr ardaloedd gwasanaeth hyn yn ogystal â gwneud gweddill bychan gaiff ei ail fuddsoddi i’w osod yn erbyn gwariant cyffredinol ar draws ardaloedd cyllid eraill. Mae’r parodrwydd i gydweithio wedi arwain at arbedion yn y gyllideb i’r ddau gyngor trwy rannu costau gwasanaethau ond yn bwysicach mae’r bartneriaeth wedi ychwanegu gwerth enfawr i gynnal cyfleusterau cymunedol pwysig sy wedi cael effaith uniongyrchol ar les yn gyffredinol. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth amlwg i’r gymuned leol gyda chyfleusterau hamdden yn cael eu cynnal a’u cadw i safon uchel iawn. Uwchlaw popeth arall, mae trosglwyddo’r gwasanaeth wedi gwella’n sylweddol ac mae’r trefniant yn darparu llawer gwell gwerth am arian i’r cyhoedd a dyma yw gwir ystyr gweithio mewn partneriaeth.  .

ASEDAU A DROSGLWYDDWYD

Trosglwyddwyd yr asedau canlynol i’r ddau gyngor oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin:

Trosglwyddiadau ardal Wledig:

Ardal chwarae Bryngolau, Dafen; ardal chwarae MUGA  Heol Gwili, Llwynhendy; ardal chwarae Heol Nant, Swiss Valley; Parc Dafen; Parc Pontiets; Tir Hamdden Pwll a Chaeau Chwarae Trallwm.

Trosglwyddiadau ardal y Dref:

Crown Park, Seaside; Parc Havelock, Morfa; Caeau Chwarae Penyfan; Caeau Chwarae Penygaer a Pharc y Bobl, Llanelli i.

Trosglwyddwyd yr asedau o dan drefniadau prydles tymor hir ond mae Cyngor Tref Caerfyrddin wedi rhoi trwyddedau i sawl un o’r cyfleusterau hamdden fel mesur daliad dros dro er mwyn cyflawni’r trosglwyddiadau tra bydd yn delio â materion cofrestru teitl gyda Cofrestrfa Tir EM. Y cyfnod prydles i bob cyfleuster yw 99 blwyddyn ar rent rhad .

Er mwyn gosod yn erbyn pwysau’r gost o drosglwyddiadau asedau, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau bod grantiau ar gael i’r ddau gyngor. Mae’r grantiau’n cyfateb i werth dwy flynedd o gost cynnal a chadw blynyddol i bob ased ac un grant gwella i gynnwys un neu’r cyfan o’r asedau a drosglwyddwyd. Mae gwerth ariannol y grantiau sydd ar gael i’r Cyngor Gwledig yn agos at £83,000 a gwerth i’r Cyngor Tref yn agos i £294,000.

Print Friendly, PDF & Email