Llywodraethu

Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn gorff cyhoeddus ac yn sicrhau fod ei Aelodau a Swyddogion yn gyfrifol am gynnal busnes cyhoeddus ac am wario arian cyhoeddus.

Mae gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith ar gyfer llywodraethiant o faterion perthnasol a gwarchod yr adnoddau sydd ar gael iddo.

Fel mesur diogeledd, y mae archwilwyr allanol yn rhoi barn annibynnol ar ddatganiadau cyfrifyddu’r Cyngor.

Mae gan y Cyngor fframwaith ar waith i fodloni gofynion deddfwriaethol.

Mae’r adran hon yn cynnwys fframwaith polisi presennol y Cyngor. Mae’n cynnwys gwybodaeth am strategaethau a chynlluniau craidd y Cyngor a gafodd eu cadarnhau a’u mabwysiadu ganddo, boed yn ofynnol trwy statud neu ddim, ynghylch y gwasanaethau y mae’n ceisio eu darparu i’r cyhoedd. Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol y mae’r Cyngor yn ei chyhoeddi o dro i dro yn unol â’i Gynllun Cyhoeddiadau.

Mae pob dogfen ar gael i’w llawrlwytho yn fformat Adobe PDF.

Print Friendly, PDF & Email