Credydau Amser yn eich ardal chi

Bynea

Cyn bo hir bydd Neuadd Gymunedol Trallwm yn derbyn Credydau Amser ar gyfer llogi’r neuadd. Bydd mwy o fanylion yn cael eu hychwanegu yma yn fuan !!

Dafen

Mae Teithiau Bywyd Gwyllt Cymru (Wales Wildlife Walks)  yn casglu sbwriel yn rheolaidd o gwmpas Pwll Dafen. Fe allwch chi ennill credydau amser wrth gymryd rhan yn y casglu sbwriel hyn. Fe allwch chi hefyd eu gwario gyda’r grŵp ar adegau amrywiol yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft yn ddiweddar fe gawson nhw noson pancos gyda bingo ac roedd gan bobol yr opsiwn i dalu mynediad mewn credydau amser neu arian parod. Am wybodaeth bellach, ewch i’n tudalen Facebook.

Dyffryn y Swistir

Mae Clwb Ieuenctid Dyffryn y Swistir yn cwrdd yng Nghanolfan Gymunedol Dyffryn y Swistir bob nos Wener (ac eithrio gwyliau ysgol) rhag 6.30pm ac 8pm. Mae’r Clwb yn edrych ar roi sesiynau gyda thema o amgylch addysg chwaraeon a sgiliau syrcas dros y misoedd nesaf. Bydd tâl am y sesiynau hyn neu gallwch dalu gyda Credydau Amser. Gallwch ennill credydau amser trwy wirfoddoli i helpu sesiynau gydlynu. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sarah Fry ar 07971 229195.

Felinfoel

Oeddech chi’n gwybod? Os ydych yn dymuno i logi’r neuadd yn Canolfan Adnoddau Gymunedol Felinfoel fydd yn ei gostio dwy Credydau Amser yr awr. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Clive Richards ar 07813 160113.

Glyn (Pum Heol, Cynheidre, Pontiets (rhan o) ac Ponthenri)

Fe allwch chi hurio Neuadd Gymunedol Ponthenri gyda Chredydau AmserMae ganddyn nhw bwyllgor newydd ac maen nhw’n agored i gael awgrymiadau oddi wrth y gymuned ar gyfer mwy o ddefnydd cymunedol. Er enghraifft, clwb coffi., Os oes diddordeb gennych mewn helpu fe allech chi ennill credydau amser am eich amser yn gwneud hynny. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y neuadd.

CYSYLLTWCH Â DARREN REES AR 01554 774103 / [email protected] I DREFNU GWEITHGAREDD CREDYD AMSER YN EICH ARDAL CHI

Print Friendly, PDF & Email