Er mwyn lleihau lledaeniad posibl Covid-19, rhaid i logwyr gyflwyno asesiad risg ar gyfer y gweithgareddau y maent am eu cynnal yn y neuadd. Rhaid i’r asesiad risg fod yn safle-benodol ac yn unol â Lefel Rhybudd Covid-19 presennol Llywodraeth Cymru. https://gov.wales/covid-19-alert-levels
Gwybodaeth am y Neuadd
Rheolir y neuadd yn annibynnol oddi wrth Gyngor Gwledig Llanelli gan bwyllgor gwirfoddol sy’n atebol i’r Cyngor. Mae’r pwyllgor yn codi tâl rhesymol am logi’r neuadd ac yn trefnu amryw weithgareddau codi arian yn flynyddol i sicrhau dichonoldeb ariannol y Ganolfan.
Cyfeiriad: Neuadd Gymunedol Swiss Valley, Heol Nant, Dyffryn y Swistir, Llanelli, SA14 8EH.
Cost llogi’r neuadd: £6. £30 i bartion (3 awr)
Archebu’r neuadd: cysylltwch â’r ysgrifennydd archebu ar 01554 784854.
Gweithgareddau Rheolaidd yn y neuadd:
Diweddarwyd diwethaf, Ionawr, 2022
Dydd Llun
- 7-9pm – Radio Hams – Radio Amatur
Dydd Mawrth
- 6.30-8.30pm – Yoga
Dydd Iau
- 6-7pm – Boot Camp
- 8-9pm – Boot Camp y Fyddin
Dydd Gwener
- 6:30-8.30pm – Clwb Ieuenctid yn ystod tymor ysgol
Dydd Sadwrn
- 10am-12canol dydd – Carate
Dydd Sul
- 6-8pm – Carate
Am wybodaeth bellach
Am wybodaeth ychwanegol am y neuadd gymunedol a phob mater arall yn ymwneud â Dyffryn y Swistir ewch i http://www.swissvalleynews.co.uk/communitycentre.html