Er mwyn lleihau lledaeniad posibl Covid-19, rhaid i logwyr gyflwyno asesiad risg ar gyfer y gweithgareddau y maent am eu cynnal yn y neuadd. Rhaid i’r asesiad risg fod yn safle-benodol ac yn unol â Lefel Rhybudd Covid-19 presennol Llywodraeth Cymru. https://gov.wales/covid-19-alert-levels
Gwybodaeth am y Neuadd
Cyfeiriad: Neuadd Gymunedol y Ffwrnes, Heol y Strade, Ffwrnes, Llanelli, SA15 4ET.
Mae Neuadd y Ffwrnes wedi’i lleoli oddi ar Heol y Strade ac yn edrcyh dros gaeau chwarae Clwb Pêl Droed y Ffwrnes. Mae gan yr adeilad ofod ar gyfer cyfarfodydd, ystafell turnio coed ar y llawr isaf a neuadd fawr, amlbwrpas gymunedol gyda decin cyfagos. Mae cyfleusterau cegin hefyd ar gael.
Cost llogi’r neuadd: £12 yr awr.
Archebu’r neuadd: cysylltwch ag ysgrifennydd archebu y neuadd ar 07786 084740 neu [email protected]
Gweithgareddau Rheolaidd yn y neuadd:
Diweddarwyd diwethaf, Ionawr, 2022
Dydd Llun: Côr Meibion Llanelli (6-9pm) yn y brif neuadd
Dydd Mawrth: Brownies (5-8pm) yn y brif neuadd
Dydd Mercher: Llanelli Community Bind Band (5.45-8.45pm) ar y llawr isaf
Dydd Mercher: Turnio coed (6-8pm) ar y llawr isaf
Dydd Sadwrn: Plantos Sport (9am-11am) yn y brif neuadd
Neuadd y Ffwrnes- angen gwirfoddolwyr
Mae’r pwyllgor yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gynnal neuadd yn gyffredinol er mwyn cynyddu’r defnydd rheolaidd ohoni, cynnal boreau coffi a hefyd cynorthwyo gyda phrosiectau pentref megis dyfrhau’r basgedi hongian, helpu gyda goleuo’r goeden Nadolig a’r BBQ yn yr haf. Os allwch chi gynnig cymorth, yna cysylltwch ag Elwyn ar 07786 084740, os gwelwch yn dda