50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Chwefror 1st, 2022

Neuadd Gymunedol y Trallwm

Gwybodaeth am y Neuadd

Cyfeiriad: Neuadd Gymunedol y Trallwm, Amanwy, Y Trallwm, Llanelli, SA14 9AH.

Cost llogi’r neuadd: £15 Defnydd llawn.  Oherwydd materion diweddar o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol nid yw’r neuadd ar gael i bartïon ar hyn o bryd.

Mae’r neuadd hefyd yn fan diogel i breswylwyr ac yn ganolbwynt Casglu Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus.

Archebu’r neuadd: cysylltwch â Claire John ar 07783039594 neu ddydd Gwener rhwng 10am – 12 canol dydd.

Gweithgareddau Rheolaidd yn y neuadd:

Diweddarwyd diwethaf, Gorffennaf, 2024

Ar gyfer pob digwyddiad, gwiriwch cyn teithio i fynychu oherwydd gall gwyliau ysgol ac ati effeithio ar yr hyn sydd ymlaen.

Dydd Llun: 10am-12canol y dydd – Dydd Llun: Crafty Seniors. Grŵp gweu a chrosio, dewch draw i ddysgu sgil newydd wrth fwynhau paned a sgwrs.

Dydd Mawrth: 10am-12canol y dydd – CWTSH Coffee a Clecks* bore coffi anffurfiol yn agored i bawb.

Dydd Mawrth: Slimming World (4.00pm – 8.00pm) Helen ar 07915048091 Gwefan https://www.slimmingworld.co.uk/group/564096

Dydd Mercher: 5pm-6pm – Rainbows (Gall yr amseroedd newid, GWIRIO)

Dydd Mercher: 6pm-8.30pm – Brownies

Dydd Mercher: 7pm-8.30pm – Guides (o Fawrth 1af)

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle i’ch plentyn ar unrhyw un o’r grwpiau hyn ewch i www.girlguiding.org.uk

Dydd Gwener: 10am-12canol dydd – Bob dydd Gwener yn ystod Gwyliau Haf yr Ysgol, yn dechrau ar Ddydd Gwener 26ain Gorffennaf 2024 clwb brecwast am ddim i deuluoedd a phlant, croeso i bawb fynychu.

Dydd Gwener: 10am-12canol dydd – CWTSH Coffee and Clecks* Bore Coffi (gweler isod )

Dydd Gwener: 10am-12canol dydd – CWTSH Clwb Cyfrifiaduron*. Grŵp cymorth a chyngor anffurfiol i ddechreuwyr a’r rhai sydd eisiau dysgu mwy. Croeso i bawb

Dydd Gwener: 4pm-6pm – Llanelli After School Time. Agored i blant 8 oed a throsodd. Man lle gall plant a phobl ifanc gwrdd â ffrindiau, dod o hyd i ffrindiau newydd, cael amser llawn hwyl, chwarae gemau bwrdd, tynnu lluniau a darllen llyfrau ac ati.  Am ragor o fanylion cysylltwch â’r trefnydd Katarzyna yn [email protected]

Dydd Sadwrn: 9.30am-2.30pm – Ysgol Ddawns Allstarz Llanelli  www.facebook.com/dancellanelli

*CWTSH Mae (Hwb Lles Cymunedol, Hyfforddiant a Chymorth) – darparu prosiectau sy’n hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, lleihau unigedd, a chynyddu ysbryd cymunedol. Mae croeso i bawb fynychu unrhyw ddigwyddiad, ni waeth ble rydych chi’n byw, neu beth bynnag yw eich oedran. Rydym yn cael boreau coffi rheolaidd. Gweler tudalen Facebook y Neuadd am y wybodaeth ddiweddaraf. Gallwch weld tudalen Facebook Neuadd trallm drwy glicio ar y ddolen  Trallwm Area Community Hall | Facebook

Gwybodaeth bellach:

Mae’r Grŵp CAFÉ yn Neuadd Trallwm yn grŵp sydd newydd ei ffurfio a fydd yn darparu Gweithgareddau Cymunedol a Digwyddiadau i’r Teulu yn y Neuadd, bydd hyn yn cynnwys teithiau diwrnod i’r teulu, nosweithiau bingo gwobrau teuluol, nosweithiau Cwis i’r Teulu, ffeiriau crefftau, arwerthiannau cist, disgos i blant, a llawer mwy o ddigwyddiadau yn cael eu cynllunio fel yr awgrymwyd gan y Gymuned. Gallwch gysylltu â’r grŵp drwy alw i mewn i’r Neuadd ar ddydd Llun/dydd Mawrth a dydd Gwener o 10am – 12 canol dydd lle cewch groeso cynnes a phaned am ddim. Yn ystod gwyliau Haf yr Ysgol bydd y grŵp yn darparu brecwast iach am ddim i bob plentyn a theulu bob dydd Gwener o 26 Gorffennaf 2024 rhwng 10am a 12 canol dydd.

 

 

 

Print Friendly, PDF & Email