50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Ionawr 15th, 2024

Meysydd Chwarae Newydd i Blant ar gyfer Clos Cilsaig a Phenygraig

Cyn bo hir bydd trigolion Clos Cilsaig, Dafen a Phenygraig, Bynea yn elwa o ardaloedd chwarae plant newydd trwy garedigrwydd Cyngor Gwledig Llanelli. Yn ystod y misoedd diwethaf mae cymunedau Clos Cilsaig a Phen-y-graig wedi cyfrannu at arolygon ymgynghori a gasglodd farn ynghylch y math o offer chwarae y dymunent ei weld yn y mannau a nodwyd. Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys mewn dogfen dendro a anfonwyd at arbenigwyr offer chwarae a fydd yn dychwelyd eu dyluniadau i’r cyngor eu hystyried ym mis Chwefror. Byddai’r cynigion a nodir yn y tendr yn darparu profiad chwarae i blant o bob oed a gallu ac yn adfywio ac yn gwella’r defnydd hamdden o’r mannau ar gyfer oedolion a phlant fel ei gilydd.

Bydd y cynnig ar gyfer Clos Cilsaig yn cael ei leoli mewn ardal a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel maes chwarae i blant, man sydd wedi’i drosglwyddo fel ased i Gyngor Gwledig Llanelli oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r gofod a nodwyd yn hen faes chwarae a fydd yn cael ei adfywio i deuluoedd lleol ac ymwelwyr â Phwll Dafen i’w fwynhau unwaith eto. Bydd gwerth y cynllun oddeutu £75,000 a bydd yn cynnwys ffensys terfyn.

Bydd man chwarae Pen-y-graig hefyd wedi’i leoli ar ofod a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel man chwarae ar dir y tu ôl i Heol Penllwynrhodyn. Unwaith eto, mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi caffael yr ardal hon drwy broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Bydd y Cyngor yn cyfrannu £75,000 ac mae £45,000 pellach o arian Adran 106 wedi ei sicrhau ar gyfer y maes chwarae. Er fe wneir cais am gyfraniad Adran 106 pellach o £30,000 i ddatblygu ardal gemau pêl aml-ddefnydd sydd i’w chaffael y tu allan i’r broses dendro bresennol

Dywedodd y Cynghorydd Susan Lewis, Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli “Mae cael nifer o gynlluniau mannau chwarae newydd ar y gweill yn gyffrous i’n cymunedau. Mae maes chwarae Clos Cilsaig wedi’i glustnodi ar gyfer gwelliant ers peth amser ond mae’r broses trosglwyddo asedau wedi’i lesteirio ond mae hyn bellach wedi’i ddatrys a chyn bo hir gellir defnyddio’r gofod ar gyfer hamdden eto a’i fwynhau gan ein trigolion ieuengaf. Mae cynllun Penygraig yr un mor foddhaol gan eu bod heb faes chwarae ers amser maith”.

Dywedodd y Cynghorydd Deryk Cundy, Cadeirydd Pwyllgor Hamdden a Lles y Cyngor “Rwy wrth fy modd gyda’r hyn y mae’r cyngor wedi’i gyflawni wrth lunio pecyn ariannu er mwyn cyflawni’r ddau gynllun hyn. Bydd cyllid Adran 106 yn galluogi arlwy chwarae ehangach ar gyfer y gofod sydd ar gael ym Mhenygraig. Edrychaf ymlaen yn awr at y cam nesaf sef rhannu’r cynlluniau chwarae a ddychwelwyd gan y trigolion yn mynegi eu barn. Mae hyn yn debygol o ddigwydd ym mis Chwefror”.

Ychwanegodd Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Susan Phillips “Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriadau cychwynnol. Os ydych wedi gadael eich manylion byddwn yn cysylltu â chi ar gyfer y set nesaf o ymgynghoriadau. Bydd manylion y cam nesaf hefyd yn cael eu hysbysebu’n lleol a’u rhannu ar wefan y cyngor a sianeli cyfryngau cymdeithasol”.

(DIWEDD)

Print Friendly, PDF & Email