50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mehefin 1st, 2023

Na i newid cynlluniau defnydd ar gyfer Gwesty Parc Strade

Mae’r Cynghorydd Sue Lewis, Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, wedi condemnio cynlluniau dadleuol i drawsnewid Gwesty Parc y Strade yn llety cychwynnol wrth gefn i gartrefu dros 300 o geiswyr lloches tra bod eu ceisiadau am loches yn y Deyrnas Unedig yn cael eu prosesu a’u hadolygu gan y Swyddfa Gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Lewis “ni ellir cefnogi’r syniad sy’n cael ei ystyried gan y Swyddfa Gartref gan nad yw’n gwneud synnwyr ar gymaint o lefelau.

“Yn bersonol, rydw i’n bryderus iawn gyda’r newyddion ac rwy’n gwybod bod fy nghyd-gynghorwyr yn teimlo fel finnau ac yn rhannu fy mhryderon am yr effaith andwyol y bydd hyn yn ei gael yn lleol ar y gwesty a’i staff ond ar ben hynny, trigolion pentref Ffwrnais a chymuned ehangach Llanelli

“Bydd y cyngor yn trafod y mater yn llawn yn ei gyfarfod nesaf ar 13 Mehefin gyda’r bwriad o lobïo’r Swyddfa Gartref i beidio â bwrw ymlaen â chynnig mor ddadleuol ac anystyriol.

“Nid gosod nifer fawr o geiswyr lloches mewn un lleoliad neu un lleoliad penodol yn Llanelli yw’r ateb. Yn syml, nid yw Llanelli yn gallu darparu ar gyfer cyfleuster prosesu mor fawr. Bydd yn cynyddu’r pwysau yn sylweddol ar yr holl asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus ond yn enwedig Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

“Os bydd hyn yn mynd yn ei flaen bydd yn cael effaith sylweddol a negyddol ar wasanaethau ac yn trawsnewid pentref Ffwrnais yn llwyr. Mae lleoedd mewn ysgolion a mynediad at wasanaethau iechyd lleol a gwasanaethau meddygon teulu eisoes dan bwysau, nid yn unig hyn ond pwy fydd yn gorfod talu’r bil? Rwy’n siŵr nad y Swyddfa Gartref fydd yn gwneud hynny.

“Rwy’n bryderus iawn am yr effaith a gaiff hyn ar statws a safle Gwesty Parc y Strade yn y dyfodol a’r gymuned yn gyffredinol. Rwy’n siŵr fy mod yn siarad ar ran yr holl gynghorwyr pan ddywedaf fod y cyngor yn llwyr gefnogi model gwasgaredig Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer lletya ceiswyr lloches ledled Sir Gaerfyrddin. Mae’r model hwn yn ceisio integreiddio ceiswyr lloches mewn ffordd fwy pwyllog a chynaliadwy. Mae eisoes wedi bod yn llwyddiannus fel y gwelsom gydag ailsefydlu llwyddiannus ceiswyr lloches o Syria, Afghanistan, Wcrain a cheiswyr lloches cyffredinol eraill yn ddiweddar.

“Rwy’n llwyr gefnogi Cyngor Sir Caerfyrddin i fynd ar drywydd hyn gyda’r pwys mwyaf gyda’r Swyddfa Gartref yn y gobaith o’i atal rhag mynd yn ei flaen.”

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Cyngor ar 01554 774103;

ebost: [email protected]

Dyddiad: 1 Mehefin 2023

Print Friendly, PDF & Email