50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mawrth 18th, 2024

Lle Tyfu Dwyfor

Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi cymryd drosodd yr hen safle rhandiroedd yn Nwyfor, Llwynhendy. Mae’r Cyngor yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a thrigolion i ymgymryd â meysydd i dyfu cynnyrch drostynt eu hunain a hefyd i gyfrannu at achosion teilwng fel y banc bwyd lleol.

Mae nifer fach o welyau uchel ar gael i’w mabwysiadu yn y gymuned. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio’n llawn ar hyn o bryd. I ymuno â’r rhestr aros, llenwch y ffurflen ar y ddolen ganlynol https://forms.gle/Z4macfWQNRoxTxr77