Canllawiau ar Arwyneb Glaswellt Artiffisial ym Mharc Dafen
Gwiriwch y canlynol i weld a yw’r cyfleuster yn addas ar gyfer eich anghenion.
Mae’r cyfleuster hwn wedi’i fwriadu ar gyfer chwaraeon hamdden, gweithgareddau hyfforddi, defnydd gan ysgolion a chwarae cymunedol anffurfiol. Mae’r arwyneb yn ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau fel hyfforddiant pêl-droed i ieuenctid, gemau ar raddfa lai, sesiynau ffitrwydd ac hamdden cyffredinol.
Sylwch nad cae safon cystadlu 3G yw hwn ac nid yw’n addas ar gyfer rygbi na gemau pêl-droed cystadleuol sy’n gofyn am arwyneb perfformiad cymeradwy. Dylai defnyddwyr sicrhau bod gweithgareddau’n briodol ar gyfer natur a dyluniad y cyfleuster.
Maint y cae yw 45 metr x 33 metr.
ARCHEBU
Cyfnod y gaeaf: 1 Ionawr – 31 Mawrth. Bydd archebu ar gyfer y cyfnod hwn yn agor ar 1 Rhagfyr.
Cyfnod yr haf: 1 Ebrill – 30 Medi. Bydd archebu ar gyfer y cyfnod hwn yn agor ar 1 Mawrth.
Cyfnod yr hydref: 1 Hydref – 31 Rhagfyr. Bydd archebu ar gyfer y cyfnod hwn yn agor ar 1 Medi.
I logi’r cyfleuster, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, rhaid i chi gysylltu â’r swyddfa ar 01554 774103 yn ystod oriau swyddfa neu drwy e-bostio [email protected]
SYLWCH fod gofynion llym ynghylch y math o esgidiau i’w gwisgo ar y cae artiffisial.
Gellir lawrlwytho’r holl delerau, rheolau a rheoliadau archebu yma
