Mai 27th, 2020

Ymgyrch Arwyr Bob Dydd Actimel

Mae Adran Hyfforddi Cyngor Gwledig Llanelli wedi cynnig enw un o’u Dysgwyr Lefel 1, Tom Jones, ar gyfer Ymgyrch Arwyr Bob Dydd Actimel.

Mae Tom wedi dangos, ac yn parhau i ddangos, gwir ysbryd yn ystod y cyfnod clo trwy wirfoddoli gyda Banc Bwyd Llwynhendy/Pemberton i sicrhau fod bwyd yn cael ei gasglu a’i ddosbarthu i’r llai ffodus yn yr ardal.

Mae Tom bob amser wedi bod yn wirfoddolwr brwd ac mae gyda’r cyntaf i gynnig cymorth. Ers dechrau’r cyfnod clo, mae Tom wedi rhoi ei amser rhydd i gyd i wirfoddoli gyda Banc Bwyd Llwynhendy/Pemberton wrth gefnogi’r Cynghorydd Jason Hart a gwirfoddolwyr eraill. Mae Tom wedi bod allan bob dydd o fore gwyn tan nos. Dywedodd Tom, “ Rydw i’n credu ei fod yn hynod o bwysig i helpu’r henoed a’r bregus o fewn y gymuned ar adeg mor anodd, ac rwy wrth fy modd yn gwneud hyn.”

Yn ogystal â’i ymrwymiad i’r banc bwyd mae Tom o hyd yn gwirio i weld os all helpu eraill ac mae wedi bod yn gefnogol iawn i ddysgwr bregus sy’n byw yn agos iddo. Cyn cychwyn Covid-19 fe wirfoddolodd Tom i’r Cyngor trwy gefnogi’r ymgynghoriadau cymunedol ar gyfer yr ardal chwarae newydd arfaethedig yn Trallwm. Mae Tom hefyd yn gwirfoddoli i Ein Llwynhendy Ni ac ef yw cynrychiolydd yr ifanc ar y grŵp.

Mae wedi dangos ethig gwaith ardderchog ynghyd ag agwedd ofalgar a thosturiol trwy gydol yr amserau anodd hyn a dyna pam yr enwebwyd ef.

Roedd yr Adran wrth eu bodd i dderbyn gohebiaeth oddi wrth Actimel i ddweud fod ymgais Tom yn un o’r pump gorau a dderbyniwyd ar gyfer Ymgyrch Arwyr Bob Dydd Actimel.

Gwobrwywyd Tom â photel Actimel bersonol ynghyd â 20 x taleb £5 Actimel i’w defnyddio mewn siop o’i ddewis.

(DIWEDD)

 

Print Friendly, PDF & Email