Yn ddiweddar agorodd Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Sharen Davies yn swyddogol gysgodfan bysiau newydd yn Gorsfach, Pemberton. Ymunodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Tegwen Devichand â’r Cynghorydd Davies ynghyd ag aelod ward Pemberton y Cynghorydd Jason Hart yn ogystal â Mr Rees un o’r trigolion lleol.
Talwyd am y gysgodfan bysiau gan Gyngor Gwledig |Llanelli a nhw hefyd fydd yn gyfrifol am ei chynnal a’i chadw yn y dyfodol. Penderfynwyd ariannu’r gysgodfan bysiau ar ôl i’r Cyngor ysgrifennu at drigolion lleol cyfagos yn gofyn am eu barn a derbyniwyd gohebiaeth yn ffafrio’r ddarpariaeth yma.
Wrth siarad yn yr agoriad dywedodd y Cynghorydd Davies: “ Daeth Mr Rees â’r angen am gysgodfan bysiau i’m sylw pum mlynedd yn ôl. Ers hynny rydw i wedi gweithio gyda’r Cynghorydd Jason Hart a Chyngor Gwledig Llanelli i gefnogi’r cyfleuster hwn yr oedd cryn angen amdano”
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Tegwen Devichand: “ Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i gynorthwyo ein cymunedau pryd bynnag y gallwn. Mae ein Cynllun Lle Cyfan yn ein galluogi i weithio ar gynllun trafnidiaeth cymunedol integredig. Mae cael y mesurau hyn yn eu lle wedi caniatau i’r Cyngor i gymeradwyo cyllid ar gyfer y gysgodfan bysiau yma fydd yn ein helpu ni i wneud gwahaniaeth positif i drigolion lleol.
(DIWEDD)
Am wynodaeth bellach, cysylltwch a’r Swyddog Datblygu Cymunedol Darren Rees ar 01554 774103; e-bost: [email protected]