50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Awst 24th, 2020

Ardaloedd Chwarae i Blant

Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn parhau i wella’r ardaloedd chwarae i blant a drosglwyddwyd oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae gwaith wedi dechrau heddiw yn Ardal Chwarae Danybanc, Felinfoel, i ddarparu ystod o gyfleusterau dringo newydd a chwarae antur, yn cynnwys siglenni a sleid. Disgwylir i’r ardal chwarae fod ar agor mewn tair wythnos. Gosodir arwyddion hefyd yn cynghori cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid y mae angen eu cadw wrth ddefnyddio’r ardal chwarae.

Cynhaliwyd ymarferion ymgynghoriad cymunedol ar gyfer darpariaeth chwarae yn Dylan, Llwynhendy yn gynharach yn y flwyddyn cyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19. Y cam nesaf yw cyflwyno canlyniad yr ymgynghoriadau hyn i Aelodau’r Cyngor Gwledig ac yna cyflwyno’r cynllun dewisol i Gyngor Sir Caerfyrddin gan fod datblygu’r ardal chwarae newydd yn ffurfio rhan o ddatblygiad tai newydd yn Dylan.

Mae’r materion cyfreithiol rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a pherchennog y tir lle lleolir ardal chwarae yng Nghlos y Graig, Dafen yn parhau sy’n golygu oedi wrth drosglwyddo’r ardal chwarae i Gyngor Gwledig Llanelli. Yn anffodus, mae hyn wedi mynd ymlaen ers sawl blwyddyn ond, unwaith y bydd y bydd y berchnogaeth wedi ei ddatrys a’r ardal chwarae yn cael ei drosglwyddo, bydd Cyngor Gwledig Llanelli yn diweddaru’r cyfarpar chwarae.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Tegwen Devichand; “ Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn parhau i fod ar y blaen gyda’r Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol gyda Chyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r Cyngor wrth ei fodd i ddiogelu a gwella cyfleusterau cymunedol er lles ei drigolion.”

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cymuned Darren Rees ar 01554 774103; ebost: [email protected]

Print Friendly, PDF & Email