Bu cynnydd sylweddol gyda chynlluniau ariannu ar gyfer hwb gymunedol amlbwrpas a gofod awyr agored newydd yn Llwynhendy. Mae grŵp llywio’r prosiect wedi negodi pecyn cymorth i helpu i wireddu’r prosiect ac mae dros £800,000 wedi’i sicrhau gan bartneriaid y prosiect: Cyngor Gwledig Llanelli, Ein Llwynhendy a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae grŵp llywio’r prosiect dan arweiniad Cyngor Gwledig Llanelli wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb, dyluniadau pensaernïol, ymweliadau safle â hybiau cymunedol eraill, nifer o arolygon, ymgynghoriadau a mwy. Mae gwaith diweddar wedi’i wneud i sefydlu Sefydliad Corfforedig Elusennol sy’n cynnwys trigolion lleol a defnyddwyr llyfrgelloedd. Bydd yr elusen, a elwir yn Pro-Vision Llwynhendy, yn gweithredu ar ran y bobl leol, yn helpu gyda chodi arian ac yn y pen draw yn rhedeg busnes dydd i ddydd yr adeilad. Mae datblygiadau eraill yn ddiweddar yn cynnwys cais cynllunio llawn yn cael ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio ar ddiwedd Ionawr ac mae’r prosiect yn cyrraedd y cyfnod allweddol olaf cyn gwneud cais am gymorth grant.
Dywedodd Clerc y Cyngor, Mark Galbraith “Mae amcangyfrif y prosiect oddeutu £1.65 miliwn. Yn dilyn cyfarfodydd diweddar gyda chynghorwyr grantiau’r Loteri a Llywodraeth Cymru a’r penseiri penodedig, fe wneir cais am arian grant i wneud iawn am y diffyg yn y cyllid ar ddechrau mis Ebrill 2022. Fodd bynnag, mae angen un rownd arall o ymgynghoriad cymunedol cyn y gellir cyflwyno ffurflen gais am y grant. Mae’n bwysig iawn bod grŵp llywio’r prosiect yn clywed gan holl drigolion Llwynhendy a Pemberton ond yn enwedig gan y rhai sy’n cyd-fynd â’r ddemograffeg a ganlyn: Gwrywod sy’n oedolion, pobl sy’n byw gyda chyflwr neu nam iechyd, pobol o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig ac oedolion 65 oed a hŷn. Os ydych chi’n dod o fewn un o’r categorïau hyn yna mae angen i ni glywed gennych cyn gynted â phosibl. Heb gefnogaeth gymunedol, mae ymgeisio am gymorth grant sylweddol yn cael ei danseilio’n ddifrifol a heb gymorth grant mae’r prosiect yn debygol o fethu. Mae llawer o amser ac arian wedi’i wario ar y gwaith rhagarweiniol i ganiatáu i hyn ddigwydd felly rydym yn estyn allan unwaith eto at drigolion i gasglu’r wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnom i’n helpu i fodloni’r broses grantiau.”
“Gellir rhoi eich barn mewn amrywiaeth o ffyrdd: Os oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, mae arolygon ar gael ar-lein yn www.llanelli-rural.gov.uk neu gellir eu cymryd dros y ffôn os ffoniwch chi Gyngor Gwledig Llanelli ar 01554 774103. Gellir cwblhau arolygon hefyd yn Llyfrgell Llwynhendy. Bydd cyfarfod grŵp ffocws hefyd yn cael ei alw ganol mis Mawrth a rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu hwn gysylltu â Chyngor Gwledig Llanelli neu adael eu manylion trwy e-bost ar [email protected]. Gwneir ymdrechion hefyd i gysylltu â sefydliadau cymorth lleol, canolfannau preswyl a rhoddir manylion ar y cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd dros yr ychydig wythnosau nesaf. Gallwch ddilyn y prosiect ar Facebook ac Instagram trwy chwilio @LlwynhendyHub”.
(DIWEDD)
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Swyddog Datblygiad Cymunedol, Darren Rees ar 01554 774103; ebost: [email protected]