50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mehefin 12th, 2019

Maes chwarae Danybanc yn barod am adfywiad

DATGANIAD I’R WASG

Mae maes chwarae Danybanc wedi derbyn adfywiad mewn mwy o ffyrdd nag y byddai trigolion Llundain Fach, Felinfoel yn eu disgwyl.

Rhoddodd Cyngor Gwledig Llanelli eu sêl bendith i drosglwyddiad ased ffurfiol y cyfleuster oddi wrth Cyngor Sir Caerfyrddin pan roddodd ei stamp o gymeradwyaeth i gwblhau y les 99 mlynedd ar gyfer trosglwyddo’r maes chwarae yn ei gyfarfod o’r cyngor a gynhaliwyd ar nos Fawrth. Bydd y maes chwarae nawr yn derbyn rhaglen adnewyddu enfawr fydd yn costio yn agos i £20,000 i roi anadl newydd i’r cyfleusterau chwarae er cefnogaeth i’r trosglwyddiad.

Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Tegwen Devichand, y sylw hwn: “mae’n ein bodloni ni ein bod o’r diwedd yn cwblhau y trosglwyddiad ased ffurfiol o’r maes chwarae i’r Cyngor; mae’n rhywbeth y buon ni ar ei ôl dros y 12 mis diwethaf. Ar ben hynny mae’n hyfryd bod trigolion Llundain Fach yn gallu edrych ymlaen i adfywiad llwyr y maes chwarae a’i gyfleusterau. Y gobaith yw y gellir trefnu hyn i gyd-fynd â gwyliau haf yr ysgolion er mwyn i blant fwynhau defnyddio’r maes chwarae a’i gyfleusterau yn ystod yr egwyl estynedig.’”

“Mae trosglwyddo’r maes chwarae yn parhau i arddangos ymrwymiad y Cyngor i’r gymuned leol trwy ddiogelu amwynder lleol arall i’n portffolio o gyfleusterau hamdden sy’n dal i dyfu wrth i’r cyngor symud ymlaen gyda’i raglen o drosglwyddo asedau.”

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Chlerc y Cyngor, Mark Galbraith ar 01554 774103; ebost: [email protected]

Print Friendly, PDF & Email