50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mehefin 25th, 2019

Diweddariad ar sgrinio TB yn Llwynhendy

Gweler isod y diweddaraf am yr ymarfer sgrinio cymunedol TB a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Llwynhendy yn ddiweddar.

 

Mae’r diweddaraf yn rhoi:

 

  • Manylion am ganfyddiadau’r ymarfer sgrinio
  • Manylion am y camau nesaf sy’n cael eu cymryd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a bwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynorthwyo cleifion y mae angen rhagor o brofion a/neu driniaeth arnynt
  • Canllawiau y gellir eu rhannu ag aelodau o’r gymuned y mae angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnynt

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Anna Ashman yn Nhîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y lle cyntaf.

 

Cofion gorau

 

Anna

 

Canfyddiadau

  • Nid oes unrhyw achosion newydd o TB gweithredol wedi’u nodi drwy’r ymarfer sgrinio hyd yma.
  • Mae 76 o achosion o TB cudd wedi’u nodi drwy’r ymarfer sgrinio hyd yma.  Nid yw TB cudd yn heintus, ni ellir ei drosglwyddo i bobl eraill ac nid oes angen triniaeth frys ar ei gyfer.
  • Caiff 53 o unigolion eu gwahodd i gael profion eildro ar ôl cael canlyniadau amhendant.
  • Cafodd mwy na 1400 o bobl eu sgrinio yn ystod yr ymarfer sgrinio.
  • Cafodd sgrinio ei ohirio ar gyfer mwy na 600 o unigolion, a fydd yn cael apwyntiadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn iddynt fynd i gael eu sgrinio.

TB Gweithredol o gymharu â TB Cudd

Mae TB cudd yn digwydd pan fo unigolion wedi’u heintio gan y germ sy’n achosi TB, ond nad oes ganddynt glefyd TB gweithredol. Nid ydynt yn heintus ac ni allant ledaenu haint TB i eraill, ac nid ydynt yn teimlo’n anhwylus nac yn dioddef unrhyw symptomau.

Os daw bacteria TB cudd yn weithredol yn y corff ac yn lluosi, bydd y person yn mynd o gael haint TB cudd i gael clefyd TB gweithredol.

Am y rheswm hwn, dylid trin pobl sydd â haint TB cudd i’w hatal rhag datblygu clefyd TB gweithredol.

 

 

Camau nesaf

  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ysgrifennu at yr unigolion hynny a gafodd eu sgrinio gyda’u canlyniadau.

 

o   Mae canlyniadau negyddol wedi’u hanfon drwy lythyr at gleifion o Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae’r llythyr hwn wedi’i gopïo i feddygon teulu’r cleifion.

o   Mae canlyniadau positif wedi’u hanfon drwy lythyr at gleifion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â gwahoddiad iddynt fynd i glinig cleifion allanol ysbyty i drafod y canlyniadau ac unrhyw brofion neu driniaeth bellach sydd eu hangen arnynt.

 

  • Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ysgrifennu at fwy na 600 o unigolion y cafodd eu sgrinio ei ohirio er mwyn cynnig apwyntiad iddynt fynd i gael eu sgrinio.

 

Canllawiau ar gyfer aelodau o’r gymuned

 

  • Dylai unigolion yn y grŵp targed (gweler Atodiad A) nad ydynt wedi cael eu sgrinio ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau TB gysylltu â 029 2082 7627 .

 

  • Dylai unigolion sydd â symptomau TB gysylltu â’u meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

 

  • Dylai unigolion sydd wedi’u sgrinio ond nad ydynt wedi cael eu canlyniadau sicrhau bod y cyfeiriad y maent wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yn gyfredol.

 

  • Mae Llywodraethu Gwybodaeth yn atal Iechyd Cyhoeddus Cymru rhag darparu canlyniadau i gleifion dros y ffôn felly ni ddylai cleifion gysylltu’n uniongyrchol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael eu canlyniadau.

 

Atodiad A

 

Grŵp targed ar gyfer Ymarfer Sgrinio Cymunedol Llwynhendy

 

Dyma’r grwpiau o bobl sy’n gymwys i gael eu sgrinio:

  • Pobl sydd wedi cael llythyr yn eu gwahodd i fynd i gael eu sgrinio
  • Cwsmeriaid sy’n oedolion a chyflogeion tafarn y Joiners Arms yn Llwynhendy rhwng 2005 a 2018 yn unig, nad ydynt wedi’u nodi’n flaenorol fel cyswllt rhywun a heintiwyd â TB
  • Oedolion sydd wedi bod yn yr un ystafell am fwy nag 8 awr gyda rhywun â TB, o fewn pedwar mis cyn i’r person â TB gael diagnosis a thriniaeth
Print Friendly, PDF & Email