50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Ebrill 16th, 2018

Cynllun Lle Gyfan Cyngor Gwledig Llanelli : Adolygiad Dwy Flynedd

Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn cynnal nifer o ymgynghoriadau dros y bythefnos nesaf i hyrwyddo ei Gynllun Lle Cyfan. Mae’r Cynllun Lle  Cyfan am fynd i’r afael â lles o fewn ei gymunedau ac wedi bod yn gweithredu am y ddwy flynedd ddiwethaf. Hyd yn hyn mae nifer o ddatblygiadau wedi digwydd o ganlyniad i’r Cynllun. Bydd yr ymgynghoriadau yn rhoi cyfle i drigolion i weld be sy wedi’i wneud hyd yn hyn yn ogystal â gofyn iddyn nhw am flaenoriaethau i symud ymlaen.

Mae’r Cynllun Lle Cyfan ar gyfer ardal Cyngor Gwledig Llanelli sy’n cynnwys pentrefi ac ardaloedd; Bynea, Cwmbach, Cynheidre, Dafen, Felinfoel, Pum Heol, Ffwrnes, Llwynhendy, Ponthenri, Pontiets, Pwll, Sandy a Swiss Valley.

Mae’r ymgynghoriadau wedi’u trefnu fel a ganlyn:

  • Dydd Mawrth, 24 Ebrill – Neuadd yr Eglwys Dafen am 6.00pm
  • Dydd Mercher, 25 Ebrill – Festri Capel Soar, Bynea am 6.00pm
  • Dydd Iau, 26 Ebrill – Neuadd Gymunedol Pum Heol am 6.00pm
  • Dydd Mercher, 2 Mai – Festri Bethlehem, Pwll am 6.00pm

Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn mynd i fersiwn ddiweddar o’r Cynllun Lle Cyfan fydd ar gael yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae arolygon ar lein ar gael ar wefan y Cyngor yn www.llanelli-rural.gov.uk

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd. Tegwen Devichand : “Mae’r Cynllun Lle Cyfan yn rhoi cyfeiriad i ni wrth benderfynu ar flaenoriaethau i’r dyfodol. Mae’n gyfle i drigolion i gael dweud eu dweud, ac felly rydw i’n eu hannog i fynychu’r ymgynghoriadau neu lenwi’r arolwg. Ers yr ymarfer ymgynghoriad gwreiddiol, mae’r Cyngor wedi gweithredu trwy ddarparu ardaloedd chwarae newydd, trosglwyddo asedau cymunedol, gweithio mewn partneriaeth gyda chynghorau cyfagos ac wedi cyflwyno nifer o ymyriadau megis Credydau Amser. Dwy flynedd wedi hynny, rydyn ni am ddarganfod beth arall allwn ni ei wneud cyhyd â’i fod o fewn pwerau’r Cyngor”.

Print Friendly, PDF & Email