Gorffennaf 22nd, 2021

Ardal chwarae newydd i blant yn y Bryn fel rhan o ddatblygiad tai cyngor newydd

Mae ardal chwarae NEWYDD i blant wedi agor mewn pryd ar gyfer gwyliau’r haf yn y Bryn, Llanelli fel rhan o ddatblygiad tai cyngor newydd gwerth £5.9 miliwn.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn adeiladu 32 o dai newydd ar dir gerllaw ystad dai Dylan yn y Bryn.

Bydd y cynllun yn cynnwys 22 o dai dwy ystafell wely, pedwar byngalo dwy ystafell wely a chwech o dai pedair ystafell wely. Mae’n rhan o ymgyrch barhaus y Cyngor i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy ledled y sir, ac ariannwyd y cynllun yn rhannol drwy Grant Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru.

Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys ardal chwarae newydd i blant, a ariannwyd gan y Cyngor mewn partneriaeth â Chyngor Gwledig Llanelli, sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros gynnal a rheoli’r ardal chwarae ers iddi gael ei chwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Rwy’n falch iawn bod y parc wedi’i gwblhau mewn pryd ar gyfer gwyliau’r haf i’r plant lleol gael ei fwynhau.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy ledled Sir Gaerfyrddin a bydd y datblygiad hwn o fudd i ddwsinau o deuluoedd yn Llanelli, yn ogystal â darparu cyfleusterau y mae angen mawr amdanynt yn y gymuned leol.

“Hoffwn ddiolch i’r cyngor gwledig am gydweithio â ni ar hyn ac rwy’n gobeithio bod y plant wrth eu boddau â’r ardal chwarae.”

Cyn dylunio’r ardal chwarae, cysylltodd y cyngor gwledig â phlant ysgol lleol i gael gwybod pa offer chwarae yr oeddent am eu cael yn eu parc newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Tegwen Devichand, Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli: “Mae’r Cyngor yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu’r ardal chwarae newydd wych hon i’r gymuned.

“Mae’n wych bod yr ardal chwarae wedi agor mewn pryd ar gyfer gwyliau’r ysgol. Rwy’n gobeithio y bydd y plant lleol yn mwynhau’r amrywiaeth o offer chwarae heriol sydd ar gael a’u bod yn cael llawer o hwyl yn eu defnyddio dros yr haf.”

Disgwylir i’r datblygiad tai gael ei gwblhau erbyn dechrau 2022.

(Diwedd)

Print Friendly, PDF & Email