50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mehefin 1st, 2018

Ardal Chwarae Felinfoel: Datganiad y Cyngor

Wrth ymateb i ymddygiad gwrth gymdeithasol yn ddiweddar yn Ardal Chwarae Felinfoel lle dinistriwyd/symudwyd 6 coeden oedd newydd eu plannu bydd cost ail osod y coed yn dod i’r Cyngor. Roedd y coed a niweidiwyd yn ffurfio rhan o gynllun tirwedd a chyfanswm y gost am hynny yn £1,500. Mae’r Cyngor wedi cynyddu nifer y patrolau yn yr ardal chwarae yn ystod yr wythnos. Oherwydd nad oes patrolau ar benwythnosau, gofynnir i’r trigolion am fod yn fwy gwyliadwrus ac i hysbysu unrhyw achosion pellach o ymddygiad gwrth gymdeithasol cyn gynted ag sy’n bosibl. Hysbyswyd yr heddlu lleol am y broblem ac fe fyddan nhw nawr yn ystyried patrolio’r ardal yn fwy rheolaidd. Anogir trigolion sy’n gweld unrhyw un sy’n niweidio’r coed newydd eu plannu, sydd wedi’u lleoli gyferbyn â’r ardal chwarae newydd ger Ynyswen i’w herio nhw am eu hymddygiad ac i gysylltu â’r heddlu. Helpwch ni i ddarparu gwell gwasanaeth wrth wneud yr ardal chwarae yn ddiogel i bawb ei mwynhau.

Print Friendly, PDF & Email