
Gwybodaeth am y Neuadd
Cyfeiriad: Neuadd Gymunedol y Ffwrnes, Heol y Strade, Ffwrnes, Llanelli, SA15 4ET.
Mae Neuadd y Ffwrnes wedi’i lleoli oddi ar Heol y Strade ac yn edrcyh dros gaeau chwarae Clwb Pêl Droed y Ffwrnes. Mae gan yr adeilad ofod ar gyfer cyfarfodydd, ystafell turnio coed ar y llawr isaf a neuadd fawr, amlbwrpas gymunedol gyda decin cyfagos. Mae cyfleusterau cegin hefyd ar gael.
Cost llogi’r neuadd: £12 yr awr – lleiafswm llogi o 2 awr.
Archebu’r neuadd: cysylltwch â Chyngor Gwledig Llanelli ar 01554 774103 neu [email protected]
Gweithgareddau Rheolaidd yn y neuadd:
Diweddarwyd diwethaf, Ionawr, 2026
Dydd Mawrth: Brownies (5-8pm) yn y brif neuadd
Dydd Mercher: Turnio coed (6-8pm) ar y llawr isaf
Dydd Iau: Clwb Bridge (2-5pm) yn y brif neuadd
Neuadd y Ffwrnes- angen gwirfoddolwyr
Mae’r pwyllgor yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gynnal neuadd yn gyffredinol er mwyn cynyddu’r defnydd rheolaidd ohoni, cynnal boreau coffi a hefyd cynorthwyo gyda phrosiectau pentref megis dyfrhau’r basgedi hongian, helpu gyda goleuo’r goeden Nadolig a’r BBQ yn yr haf. Os allwch chi gynnig cymorth, yna cysylltwch Gyngor Gwledig Llanelli os gwelwch yn dda ar 01554 774103.
