Mai 15th, 2023

Prosiect Cynhwysiant Bywyd Gwyllt a Bioamrywiaeth Llanelli Wledig

Datganiad i’r wasg:

Y CYNGOR YN DERBYN CYLLID LLEOEDD LLEOL AR GYFER NATUR AR GYFER PROSIECT CYNHWYSIANT BIOAMRYWIAETH

Mae’n bleser gan Gyngor Gwledig Llanelli gyhoeddi ei fod wedi derbyn grant Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Prosiect Cynhwysiant Bywyd Gwyllt a Bioamrywiaeth Llanelli Wledig. Bydd grant o hyd at £69,725 yn cael ei roi i gyflawni prosiect bioamrywiaeth dan arweiniad gwirfoddolwyr ym Maes Hamdden Ponthenri ac i gael offer i wella arferion torri mewn sawl man gwyrdd yn Llanelli.

Yn ystod 2022, llwyddodd y cyngor i dreialu amserlen dorri gwair llai ar ardaloedd o dir y cyngor nad oeddent yn cael eu defnyddio ar gyfer chwaraeon. Roedd hyn yn cynnwys ardal o Dir Hamdden Ponthenri. Bydd y prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ategu’r arfer hwn drwy alluogi prynu peiriannau torri a chasglu torri gwair. Bydd hyn yn caniatáu cyflwyno’r fenter yn ehangach ac yn galluogi amserlen torri gwair sy’n fwy ystyriol i bryfed peillio.

Dros y 12 mis nesaf bydd ymwelwyr â Maes Hamdden Ponthenri yn sylwi ar lwybrau a nodweddion estynedig o fewn y parc. Bydd y cyllid yn darparu planwyr dyrchafedig hygyrch, perllan, gwestai chwilod, blychau cynefinoedd, cloddiau, meinciau, ardal estynedig o flodau gwyllt a chreu llwybrau newydd a fydd yn ffinio â llwybrau presennol. Bydd sawl diwrnod gwirfoddoli yn cael eu trefnu er mwyn cyflawni’r newidiadau hyn. Bydd canlyniadau’r gweithgaredd gwirfoddol yn cael eu mwynhau gan drigolion Ponthenri o bob oed gan y bydd yn creu gwell hygyrchedd ac yn darparu mannau i eistedd ac ymlacio mewn amgylchedd deniadol.

Gall y rhai sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gymryd rhan mewn adeiladu gwestai chwilod a blychau adar, yn ogystal â phlannu coed a gosod planwyr uchel. Trefnir diwrnodau gweithdai  gwirfoddolwyr ac fe’u hysbysebir maes o law ar wefan y Cyngor a’r cyfryngau cymdeithasol. Gall y rhai sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gysylltu â’r Cyngor ar 01554 774103 neu drwy e-bost ar [email protected]

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Susan Phillips “Rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid grant ar gyfer prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae’n galluogi’r Cyngor i weithredu’n rhagweithiol dros ein bioamrywiaeth naturiol ac effeithio’n gadarnhaol ar les trigolion a gwirfoddolwyr y prosiect. Mae’r cynnig i wirfoddoli yn gyfle gwych i unigolion a grwpiau cymunedol sefydledig gymryd rhan a chreu gofod i bobl a natur i elwa ohono. Bydd y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant pobl ac mae’n rhywbeth rydym yn hapus i helpu i’w gydlynu. Rwy wrth fy modd dros drigolion Ponthenri gan fod yr ymgynghoriad cymunedol y bu’r trigolion yn cymryd rhan ynddo wedi nodi’r maes hamdden fel y flaenoriaeth fwyaf ar gyfer gwelliant. Edrychaf ymlaen at ymweld â’r ardal yn y dyfodol i weld yr effaith gadarnhaol y mae’r cyllid wedi’i gael.”

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cymunedol, Darren Rres ar 01554 774103; ebost: [email protected]

 

Print Friendly, PDF & Email