50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mehefin 6th, 2019

Meddwl Yn Fyd Eang Trwy Weithredu’n Lleol

Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi addunedu i gefnogi datganiad cenedlaethol o Argyfwng Amgylcheddol a Hinsawdd. Mae’r cyngor wedi dewis sefydlu gweithgor i ganolbwyntio ar y mater hwn. Mae’r cyngor fel llawer o gynghorau lleol eraill yn y DU yn benderfynol o chwarae ei ran trwy archwilio ei benderfyniadau polisi, ei weithredoedd a’i weithgareddau yn y gymuned a beth y gellir ei wneud yn lleol i fynd i’r afael ag allyriadau carbon i helpu i frwydro yn erbyn cynhesu byd eang.

Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Tegwen Devichand y sylw hwn: “mae yna gyfrifoldeb ar y cyd i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol. Mae’r cyngor eisoes yn gorfod arsylwi a gweithredu yn unol ag egwyddor datblygiad cynaliadwy fel y’i diffinir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf hon yn gosod saith nod llesiant y disgwylir i bob corff cyhoeddus yng Nghymru eu dilyn. Mae un o’r nodau hyn- ‘Cymru Cydnerth’ yn mynd i’r afael yn benodol â’r angen i gynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gyda systemau eco gweithredol iachus sy’n cefnogi cadernid cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r capasiti i addasu i newidiadau pwysig megis newid hinsawdd. Dros y chwe mis nesaf tasg gweithgor y cyngor fydd cynnal arolwg manwl o’i weithgareddau er mwyn sefydlu pa fesurau y gall eu cymryd yn lleol i gefnogi’r datganiad cenedlaethol.”

 

 

(DIWEDD)

Print Friendly, PDF & Email