50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Rhagfyr 18th, 2019

Caeau Heol Gwili, Y Cam Nesaf

**DATGANIAD I’R WASG**

Caiff cyfleuster cymunedol newydd a gwelliant i ofod gwyrdd yn Llwynhendy ei ystyried yn gynnar yn 2020. Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi mynegi diddordeb gyda Chyngor Sir Caerfyrddin mewn trosglwyddo asedau adeilad Llyfrgell Llwynhendy a’r caeau o amgylch yn Heol  Gwili. Mae hyn yn dilyn amryw ymgynghoriadau cymunedol a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diweddar fel rhan o drafodaethau Cynllun Lle Cyfan Cyngor Gwledig Llanelli a Buddsoddi’n Lleol gyda’r gymuned.  Rhan o’r broses negydu ydyw cynhyrchu achos busnes fydd yn bodloni’r ddau Gyngor fod y prosiect yn ddichonadwy. Bydd y broses yn edrych ar y gofod gwyrdd a hwb cymunedol posibl fydd yn ategu y gwasanaeth llyfrgell presennol, wrth adeiladu gofod ychwanegol i weithgareddau a gwasanaethau amrywiol fydd yn help i wella lles lleol i grwpiau o bob oedran.

Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi sicrhau cyllid oddi wrth brosiect Ein Llwynhendy Buddsoddi’n Lleol  (wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol) i dalu am astudiaeth dichonoldeb yn cychwyn yn Ionawr 2020. Mae’r comisiwn i fod i barhau am bedwar mis a bydd yn darparu cyfleoedd i’r gymuned i gael dweud eu dweud trwy’r cyfan i gyd. Bydd yr astudiaeth yn creu gweledigaeth a chynllun ar gyfer y safle cyfan wrth ddarparu costau dangosol i’r prosiect.

Wrth gynllunio’r comisiwn hwn, mae’r Cyngor wedi gweithio gyda grwpiau lleol sy’n cynnwys Ein Llwynhendy, Fforwm Llwynhendy a Pemberton, Canolfan Blant Integredig a Chanolfan Deulu Tŷ Enfys. Rhyddheir mwy o wybodaeth am hyn yn y Flwyddyn Newydd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Tegwen Devichand : “Mae’r Cyngor wedi bod mewn trafodaethau gyda’r awdurdod lleol a landlordiaid preifat mewn ymdrech i ddod o hyd i adeilad mewn gwell lleoliad a mwy cyfleus er mwyn darparu canolfan gymunedol yn Llwynhendy. Rydyn ni’n falch i gomisiynu’r astudiaeth ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol a moesol a ddarparwyd gan Buddsoddi’n Lleol i helpu’r Cyngor i wneud hyn yn bosibilrwydd”.

Yn y llun mae cynrychiolwyr o Bwyllgor Hamdden a Lles Cyngor Gwledig Llanelli, swyddogion Cyngor Gwledig Llanelli, a Ein Llwynhendy Buddsoddi’n Lleol.

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Swyddog Datblygu Cymunedol Darren Rees ar 01554 774103; ebost: [email protected]

Print Friendly, PDF & Email