50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Gorffennaf 17th, 2017

Man Chwarae Pont-iets Ar Agor

Gosodwyd cyfarpar chwarae newydd yn yr ardal chwarae yn agos i Heol Llanelli ym Mhont-iets. Roedd disgyblion Ysgol Gynradd Pont-iets allan yn yr heulwen y bore yma yn mwynhau’r parc newydd yn ystod ei agoriad swyddogol. Yn yr agoriad roedd cynrychiolwyr o Gyngor Gwledig Llanelli a chyflwynwyd ‘bagiau rhoddion’ i Ysgol Pont-iets a gyflenwyd gan wneuthurwyr y cyfarpar chwarae, Wicksteed Playgrounds.

Cafodd plant yr ysgol gyfle i roi eu barn ynglŷn â chynllun y parc a helpu i ddewis y cyfarpar yn gynharach yn y flwyddyn. Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi cysylltu â’r ysgol a’r gymuned trwy gydol y broses o ddylunio a chynllunio ac mae gan y plant bellach ardal chwarae sy’n adlewyrchu eu dymuniadau.

Ariannwyd y parc gan Gyngor Gwledig Llanelli ar ôl iddo gael ei drosglwyddo oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin o dan les 99 mlynedd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Tegwen Devichand, “Mae’n bleser gennym ein bod yn gallu darparu’r cyfleusterau newydd ardderchog hyn ym Mhont-iets. Mae’r angen am gyfarpar newydd yn yr ardal chwarae hon wedi bodoli ers peth amser ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi ei agor mewn pryd i wyliau haf yr ysgolion. Fe hoffwn ddiolch i Mrs Rumble a’i staff yn Ysgol Pont-iets am eu cydweithrediad trwy gydol y broses a hefyd i’r plant a helpodd i greu parc newydd hyfryd.”

(Yn y llun o’r chwith i’r dde : Cynghorydd Jim Jones, Ward Glyn Cyngor Gwledig Llanelli, Pennaeth Ysgol Pont-iets, Eira Rumble,  Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd John Evans a phlant o Gyngor Ysgol Pont-iets)

(DIWEDD) 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch á:
Swyddog Datblygiad Cymunedol, Darren Rees ar 01554 774103

Print Friendly, PDF & Email