Sefydlwyd LRC Training gan Gyngor Gwledig Llanelli ym 1988.
Ein pwrpas yn wreiddiol oedd darparu profiad gwaith a hyfforddiant i oedolion di-waith. Yn anffodus, nid ydym yn darparu’r hyfforddiant hwn mwyach. Fodd bynnag, rydym yn darparu hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl ifanc 16-18 oed, yn ogystal â darparu cymwysterau i oedolion cyflogedig trwy ein rhaglenni prentisiaeth. Mae LRC Training yn parhau i fod yn adran hunangyllidol o fewn Cyngor Gwledig Llanelli.
Mae LRC Training yn darparu Rhaglenni Prentisiaeth mewn Logisteg, Trafnidiaeth, Gweinyddu Busnes a Gwasanaeth Cwsmeriaid fel rhan o bartneriaeth Academi Sgiliau Cymru a arweinir gan Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot.
Mae LRC Training yn darparu Rhaglen Gyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed. Mae Twf Swyddi Cymru a Mwy yn cael ei ddarparu drwy drefniadau is-gontract gydag ACT Ltd ac ITEC Skills Ltd.
Mae Gwefan Hyfforddiant y CAD yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.
Am ragor o wybodaeth neu gyngor, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw trwy e-bost, ffôn, Facebook, Twitter, Instagram neu gallwch ysgrifennu atom. Ein nod yw dychwelyd atoch cyn gynted ag y bo modd.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.
-
LRC Training,
Vauxhall Buildings,
Vauxhall,
Llanelli,
SA15 3BD
Gweld ar Google Maps
Ffon: 01554 774121
E-bost: [email protected] -
LRC Training,
Old Priory Street School,
Penuel Street,
Carmarthen,
SA31 1NH
Gweld ar Google Maps
Ffon: 01267 240237
Ffon: 01554 774121
Mob: 07802 323807
E-bost: [email protected] -
LRC Training,
Unit 8 Foothold Village,
Bury Road,
Machynys,
Llanelli,
SA15 2DS
Gweld ar Google Maps
Ffon: 01554 759867
Ffon: 01554 774121
E-bost: [email protected]
Contact LRC Training
Wrth ddelio ag ymholiadau ysgrifenedig ac electronaidd:
- – Byddwn yn ateb pob ymholiad o fewn 10 diwrnod gwaith; os na allwn ateb o fewn 10 diwrnod byddwn yn cysylltu â chi i esbonio pam y bydd yr ateb yn cymryd mwy o amser a phryd y gallwch ddisgwyl ymateb.
- – Byddwn yn cydnabod ceisiadau e-bost a ddanfonwyd at [email protected] trwy e-bost o fewn 24 awr (heblaw am benwythnosau a gwyliau) ac yn danfon ymateb llawn o fewn y cyfnodau amser a ddisgrifiwyd uchod.
- – Byddwn yn defnyddio iaith blaen yn ein holl ymatebion ac yn rhoi manylion cyswllt y person sy’n delio â’ch ymholiad.