Medi 25th, 2019

Diweddariad sgrinio TB cymunedol Llwynhendy – Medi

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi’r diweddariad canlynol i’r Cyngor mewn perthynas ag ymarfer sgrinio cymunedol TB Llwynhendy a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn.

Mae’r diweddaraf yn rhoi:

  • Manylion am ganfyddiadau Cam 2 yr ymarfer sgrinio
  • Nodyn atgoffa am ganfyddiadau Cam 1 yr ymarfer sgrinio
  • Y trefniadau dilynol sydd ar waith ar gyfer grwpiau cleifion sy’n rhan o Gam 2 yr ymarfer
  • Camau nesaf
  • Negeseuon i’w rhannu ag unigolion yn y gymuned

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Sarah Jones yn Nhîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y lle cyntaf [email protected]

Canfyddiadau Cam 2

  • Nid oes unrhyw achosion o glefyd TB gweithredol wedi’u nodi drwy Gam 2 yr ymarfer sgrinio.
  • Mae 128 o achosion o haint TB cudd wedi’u nodi drwy Gam 2 yr ymarfer sgrinio
  • Roedd y canlyniadau’n amhendant mewn 92 o unigolion a byddant yn cael eu hailalw am brawf gwaed eildro.
  • Cynhaliwyd Cam 2 yr ymarfer sgrinio mewn cyfleuster penodol a sefydlwyd yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli rhwng dydd Llun 2 Medi a dydd Gwener 13 Medi 2019.
  • Cynhaliwyd Cam 2 y sgrinio drwy wahoddiad yn unig i unigolion nad oeddent yn gallu cael eu sgrinio neu a oedd wedi cael eu sgrinio’n rhannol yn unig yn sgil y galw mawr yn ystod sesiynau galw heibio cam 1 a gynhaliwyd yn ardal Llwynhendy ym mis Mehefin.
  • Daeth bron 800 o unigolion i gael eu sgrinio dros y deg diwrnod.

 Canfyddiadau Cam 1

 Ni chafodd unrhyw achosion o glefyd TB gweithredol eu nodi drwy Gam 1 yr ymarfer sgrinio.

  • Nodwyd 76 o achosion o TB cudd drwy Gam 1 yr ymarfer sgrinio
  • Cafodd sgrinio ei ohirio tan Gam 2 ar gyfer tua 600 o unigolion.
  • Cafodd 53 o unigolion eu gwahodd i gael profion eildro yn ystod Cam 2 ar ôl cael canlyniadau amhendant.
  • Cynhaliwyd Cam 1 o’r ymarfer sgrinio ym mis Mehefin 2019. Cafodd sgrinio ei gynnal dros dri diwrnod mewn tri lleoliad yn ardal Llwynhendy.
  • Daeth dros 1500 o unigolion i gael eu sgrinio dros y tri diwrnod.

Trefniadau dilynol ar gyfer cleifion Cam 2

  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ysgrifennu at unigolion a aeth i Gam 2 yr ymarfer sgrinio gyda’u canlyniadau.
  • Anfonir apwyntiad claf allanol at y 128 o unigolion y nodwyd bod ganddynt haint TB cudd i drafod opsiynau triniaeth.
  • Caiff y 92 o unigolion y nodwyd bod ganddynt ganlyniadau amhendant eu hailalw am brawf gwaed eildro.
  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrthi ar hyn o bryd yn gweithio i nodi unigolion yr anfonwyd gwahoddiad atynt i gael eu sgrinio, naill ai yn ystod Cam 1 neu Gam 2 yr ymarfer sgrinio, ond ni wnaethant ddod i gael eu sgrinio.

Camau nesaf

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrthi’n adolygu’r data a gasglwyd drwy ddau gam yr ymarfer sgrinio i benderfynu a oes angen camau gweithredu ychwanegol er mwyn rheoli’r achos. Caiff diweddariad llawn ei ddarparu maes o law.

 Negeseuon i’w rhannu gyda’r gymuned

  • Dylai cleifion sydd wedi cael llythyr gan BIP Hywel Dda mewn perthynas â’u canlyniadau ddilyn y cyfarwyddiadau yn y llythyr hwnnw.
  • Anfonir apwyntiad claf allanol at unigolion y nodwyd bod ganddynt haint TB cudd i drafod opsiynau triniaeth maes o law.
  • Caiff unigolion y nodwyd bod ganddynt ganlyniadau amhendant eu hailalw am brawf gwaed eildro maes o law.
  • Gall unigolion sydd wedi cael eu canlyniadau ac a hoffai siarad â Nyrs Arbenigol ffonio’r Llinell Gymorth:

Rhif ffôn y Llinell Gymorth: 01267 283145

Dydd Llun tan ddydd Gwener (10:00 o’r gloch – 12:00 o’r gloch a 15:00 o’r gloch – 17:00 o’r gloch)

Dydd Iau 26 Medi tan ddydd Mercher 2 Hydref 2019, ac ar ôl hynny bydd wedi cau.

  • Dylai unigolion sydd wedi’u sgrinio ond nad ydynt wedi cael eu canlyniadau sicrhau bod y cyfeiriad y maent wedi’i gofrestru gyda’u meddyg teulu yn gyfredol.
  • Mae Llywodraethu Gwybodaeth yn atal Iechyd Cyhoeddus Cymru rhag darparu canlyniadau i gleifion dros y ffôn felly ni ddylai cleifion gysylltu’n uniongyrchol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael eu canlyniadau.
Print Friendly, PDF & Email