50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Lwfansau Aelodau

Taliadau i aelodau Cyngor Gwledig Llanelli

O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae cynghorau cymuned a thref yn awdurdodau perthnasol at ddiben taliadau.

O ganlyniad, mae gan unigolion sydd wedi derbyn swydd fel aelod (cynghorwyr) o Gyngor Gwledig Llanelli hawl i dderbyn taliadau fel y pennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW). Mae’n ddyletswydd ar swyddog priodol y cyngor (y Rheolwr Cyllid yn yr achos hwn) i drefnu i daliadau cywir gael eu gwneud i bob unigolyn sydd â hawl i’w derbyn.

Gall aelod wrthod derbyn rhan, neu’r cyfan, o’r taliadau os yw’n dymuno. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig ac mae’n fater unigol. Rhaid i unrhyw aelod sy’n dymuno gwrthod taliadau ysgrifennu at y swyddog priodol i wneud hynny.

At ddibenion tâl, caiff y cyngor ei gategoreiddio fel cyngor grŵp 1 oherwydd bod mwy na 14,000 o etholwyr yn ei etholaeth. Mae Tabl 1 isod yn nodi’r math o daliadau y mae’n rhaid i’r cyngor (gorfodol) neu y gall (dewisol) eu gwneud i’w aelodau

Gwneud Taliadau i Aelodau

Mae gan bob aelod, gan gynnwys aelodau cyfetholedig, hawl i hawlio cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol, ar gyfer gweithgareddau y mae’r cyngor wedi eu dynodi fel busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy a allai gynnwys amser paratoi ac amser teithio priodol a rhesymol.

Mae costau gofal a thaliadau cymorth personol yn drethadwy o dan reolau cyfredol HMRC felly nid yw ad-daliad llawn yn bosibl. Gellir gwneud hawliadau mewn perthynas â dibynnydd o dan 16 oed, neu blentyn dan oed neu oedolyn sydd fel arfer yn byw gyda’r aelod fel rhan o’i deulu ac na ellir ei adael heb oruchwyliaeth. Rhaid anfon derbynebau gyda’r hawliadau. Bydd cyfraniad tuag at gostau gofal a thaliadau cymorth personol yn cael ei awdurdodi ar gyfer

  • Costau gofal ffurfiol (wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) i’w talu fel y dangosir;
  • Costau gofal anffurfiol (anghofrestredig) i’w talu hyd at gyfradd uchaf sy’n cyfateb i gyfradd fesul awr y Cyflog Byw Gwirioneddol fel y’i diffinnir gan y Sefydliad Cyflog Byw ar yr adeg y bydd y costau yn digwydd.

Mewn perthynas â’r taliadau gorfodol eraill, nid oes angen penderfyniad a bydd aelodau’n derbyn arian y mae ganddynt hawl briodol iddo fel mater o drefn.

Gall y cyngor fabwysiadu unrhyw rai, neu bob un, o’r penderfyniadau nad ydynt yn orfodol a nodir isod ond wrth wneud hynny, rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w holl aelodau.

Mae Tabl 2 yn nodi penderfyniadau’r IRPW ar gyfer y sector cynghorau cymuned a thref ar gyfer 2022/23 ac os oes angen penderfyniad gan y cyngor mewn perthynas â phob un.

Mae pob aelod yn gymwys i gael y £150 a nodir ym Mhenderfyniad 44 fel arfer o ddechrau’r flwyddyn ariannol; oni bai eu bod yn cael eu hethol yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol, ac os felly maent yn gymwys i gael taliad cyfrannol o’r dyddiad hwnnw. Fodd bynnag, gan fod 2022 yn flwyddyn etholiad bydd angen trefniadau gwahanol..

  • Mae gan aelodau nad ydynt yn sefyll i’w hail-ethol neu sy’n methu â chael eu hailethol hawl i daliad rhannol am y cyfnod 1 Ebrill i 8 Mai.
  • Mae gan aelodau presennol sy’n cael eu hail-ethol hawl i’r taliad llawn.
  • Mae gan aelodau newydd hawl i daliad cyfrannol o 9 Mai am weddill y flwyddyn.

Mae symiau eraill sy’n daladwy i aelodau i gydnabod cyfrifoldebau penodol er enghraifft, arweinydd y cyngor (Penderfyniad 45), cadeirydd y cyngor neu is-gadeirydd (Penderfyniadau 50 a 51) yn daladwy o’r dyddiad y mae’r aelod yn ymgymryd â’r rôl yn ystod y flwyddyn ariannol. Ar gyfer blwyddyn yr etholiad bydd yr un trefniadau ag a nodir uchod yn berthnasol.

Mater i’r cyngor yw gwneud, a chofnodi:

  • pryd yn union y gwneir y taliad i’r aelod;
  • faint o daliadau y caiff y cyfanswm sy’n daladwy ei rannu iddynt
  • a ph’un ai a sut i adennill unrhyw daliadau a wnaed i aelod sy’n gadael neu’n newid ei rôl yn ystod y flwyddyn ariannol.

Mae taliadau mewn perthynas â Phenderfyniadau 46 a 47 yn daladwy pan fydd y gweithgaredd y maent yn ymwneud ag ef wedi digwydd.

Cliciwch i weld Lwfansau Cynghorwyr am 2022-2023 

Cliciwch i weld Lwfansau Cynghorwyr am 2021-2022

Cliciwch i weld Lwfansau Cynghorwyr am 2020-2021

Cliciwch i weld Lwfansau Cyngorwyr am  2019-2020

Cliciwch i weld Lwfansau Cynghorwyr am 2015-2016

Cliciwch i weld Lwfansau Cynghorwyr am 2014-2015

Print Friendly, PDF & Email