Chwefror 1st, 2022

Neuadd Gymunedol y Ffwrnes

 

Gwybodaeth am y Neuadd

Cyfeiriad: Neuadd Gymunedol y Ffwrnes, Heol y Strade, Ffwrnes, Llanelli, SA15 4ET.

Mae Neuadd y Ffwrnes wedi’i lleoli oddi ar Heol y Strade ac yn edrcyh dros gaeau chwarae Clwb Pêl Droed y Ffwrnes. Mae gan yr adeilad ofod ar gyfer cyfarfodydd, ystafell turnio coed ar y llawr isaf a neuadd fawr, amlbwrpas gymunedol gyda decin cyfagos. Mae cyfleusterau cegin hefyd ar gael.

Cost llogi’r neuadd: £12 yr awr – lleiafswm llogi o 2 awr.

Archebu’r neuadd: cysylltwch ag ysgrifennydd archebu y neuadd ar 07786 084740 neu [email protected]

Gweithgareddau Rheolaidd yn y neuadd:

Diweddarwyd diwethaf, Chwefror, 2024

Dydd Mawrth: Brownies (5-8pm) yn y brif neuadd

Dydd Mercher: Turnio coed (6-8pm) ar y llawr isaf

Dydd Iau: Anturfit (10-12pm) hwyl a ffitrwydd i Famau a’u rhai bach yn y brif neuadd

Dydd Iau: Clwb Bridge (2-5pm) yn y brif neuadd

 

Neuadd y Ffwrnes- angen gwirfoddolwyr

Mae’r pwyllgor yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gynnal neuadd yn gyffredinol er mwyn cynyddu’r defnydd rheolaidd ohoni, cynnal boreau coffi a hefyd cynorthwyo gyda phrosiectau pentref megis dyfrhau’r basgedi hongian, helpu gyda goleuo’r goeden Nadolig a’r BBQ yn yr haf. Os allwch chi gynnig cymorth, yna cysylltwch ag Elwyn ar 07786 084740, os gwelwch yn dda

Print Friendly, PDF & Email