50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mai 24th, 2017

Croeso i Gwefan Newydd Cyngor Gwledig Llanelli

Yn ddiweddar rydyn ni wedi bod yn gweithio’n  brysur iawn tu ôl y llenni gyda’n datblygwyr gwefan ar wefan newydd.

Tra eich bod chi yma fe allwch chi ddarganfod pwy yw aelodau newydd y Cyngor a hefyd edrych ar y nodweddion newydd niferus o dan y penawdau Lles ac Eich Cymuned. Y syniad oedd gennym wrth adeiladu’r wefan oedd darparu mwy o wybodaeth i’r gymuned am Ardal Wledig Llanelli a helpu i gysylltu pobol â chymdeithasau perthnasol.

Diolch i’r grwpiau cymunedol sydd eisoes wedi ateb i gael eu cynnwys yn ein cyfeirlyfr grwpiau cymunedol, fe geisiwn ni ychwanegu cymaint o grwpiau ag sy’n bosibl a sicrhau bod y data yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd. Nodwedd newydd arall fydd y dudalen digwyddiadau cymunedol lle gallwch chi hyrwyddo eich digwyddiadau sydd i ddod. Mae cymaint mwy i’w ddarganfod gyda thudalennau sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ar eitemau megis, cynlluniau gwasanaeth, cofnodion cyfarfodydd, cyfleoedd cyllido, credydau amser a datblygiad cynaliadwy i enwi ond ychydig.

Hyderwn eich bod yn hoffi ein gwefan newydd ac os oes gennych unrhyw sylwadau, defnyddiwch y dudalen gyswllt, os gwelwch yn dda.

Print Friendly, PDF & Email