50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Gorffennaf 2nd, 2019

Bancbwyd Llwynhendy Pemberton

Yn ddiweddar agorodd Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Sharen L. Davies Banc Bwyd Llwynhendy/Pemberton sydd wedi’i leoli yng Nghlwb Bryn a Trallwm.

Bydd y Bancbwyd yn agor ei ddrysau ar Ddydd Mercher, 24 Gorffennaf, 2019 ar gyfer cyfeiriadau cod post o fewn ardaloedd Llwynhendy, Bynea, Dafen, Felinfoel a Swiss Valley.

Dywedodd y Cynghorydd Tegwen Devichand, Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli : “Rydyn ni’n llwyr gefnogi menter Fforwm Llwynhendy a Phemberton yn sefydlu bancbwyd ac wedi cyfrannu £500 tuag ato”

Am fanylion pellach ynglŷn â chael mynediad i’r bancbwyd neu gyfrannu tuag ato cysylltwch â’r Cynghorydd Jason Hart ar 07876307046.

Print Friendly, PDF & Email