50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mawrth 5th, 2020

Neuadd Gymunedol Sandy a’r Strade – Cronfa Datblygu Cymunedol

Bu Neuadd Gymunedol Sandy a’r Strade yn llwyddiannus yn eu cais am Gronfa Datblygu Cymunedol Cyngor Gwledig Llanelli am y swm o £2.406 a’u galluogodd hwy i brynu taflunydd, sgrȋn a seinyddion i wella’r cyfleusterau yn y Neuadd. Dywedodd Ray Jones, Trysorydd Neuadd Gymunedol Sandy a’r Strade: “ Bydd hyn yn gwella’r Neuadd a bydd o fudd i drigolion lleol a’r rheiny sy’n defnyddio cyfleusterau’r Neuadd”. Os hoffech chi archebu Neuadd Gymunedol Sandy a’r Strade yna ewch i’n gwefan yn www.llanelli-rural.gov.uk neu cysylltwch â Ray ar 01554 771353 neu e-bostiwch ef ar [email protected]

Yn y llun: (o’r chwith i’r dde) Cyngh, Jason Hard (Cydweddog yr Is gadeirydd), Is Gadeirydd Cyngh. Tegwen Devichand, Ray Jones, Trysorydd Neuadd Gymunedol Sandy a’r Strade a Ben Evans Ysgrifennydd Neuadd Gymunedol Sandy a’r Strade, y Cadeirydd Cyngh. Sharen Davies a’i chydweddog Miss Shelley Williams.

Print Friendly, PDF & Email