50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mai 15th, 2019

Ei Gadw Yn Y Teulu

Etholwyd y Cynghorydd Sharen L. Davies yn Gadeirydd newydd Cyngor Gwledig Llanelli ar gyfer blwyddyn y cyngor sy’n cychwyn ar Fai 14, 2019. Dyma’r ail dro i’r Cynghorydd Davies gael ei hethol ar gyfer y swydd. Roedd y tro cyntaf nôl ym Mai 2010.

Cefnogir y Cynghorydd Davies yn fedrus iawn gan ei mam y Cynghorydd Tegwen Devichand sy hefyd wedi ei hethol fel Is-gadeirydd newydd y Cyngor. Dyma’r tro cyntaf yn hanes 45 mlynedd y cyngor i gael mam a merch yn gwasanaethu mewn swyddi ar yr un pryd.

Roedd y Cynghorydd Davies yn llawn brwdfrydedd: “Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y flwyddyn sydd i ddod yn enwedig o wybod y bydd fy mam yn fy nghefnogi drwy gydol y flwyddyn ddinesig yn ei rôl fel Is-gadeirydd. Mae hyn yn golygu llawer i’r ddwy ohonom ac rydw i’n sicr y bydd yn rhywbeth y byddwn ni’n dwy yn ymhyfrydu ynddo a’i fwynhau.”

“Rydw i’n dechrau ar fy swydd pan fo llawer i edrych ymlaen ato. Dros y 12 mis nesaf bydd y cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar ddod â newidiadau positif i helpu i wella lles lleol trwy ei raglen datblygu cymunedol uchelgeisiol. Fe fydda i’n chwarae fy rhan gyda hyn trwy gefnogi y cyngor i ymestyn ei afael a’i ddylanwad ar y gymuned leol.”

 

 

(DIWEDD)

 

Print Friendly, PDF & Email