Tachwedd 2nd, 2020

Datganiad i’r Wasg Cronfa Ddŵr Swistir

Cyhoeddi cynllun i fabwysiadu safle o brydferthwch heddiw diolch i bartneriaeth arloesol – y cyntaf o’i fath yng Nghymru!

·         Cynllun mabwysiadu cymunedol cyntaf Dŵr Cymru yng Nghymru

·         Daw Cronfeydd Dŵr Cwm Lliedi’n hyb ar gyfer hamdden, iechyd a llesiant

·         Cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac ‘adferiad gwyrdd’ yng Nghymru

Mae cynllun i fabwysiadu lle prydferth sy’n agos at galonnau pobl yn Sir Gaerfyrddin wedi cael sêl bendith diolch i bartneriaeth arloesol rhwng Dŵr Cymru a Chyngor Gwledig Llanelli – dyma’r achos cyntaf o fabwysiadu cymunedol o’r fath yng Nghymru.

 

Gallai’r bartneriaeth ddenu dros 90,000 o ymwelwyr y flwyddyn trwy greu hyb ar gyfer hamdden, iechyd a lles yng Nghronfeydd Dŵr Cwm Lliedi yn Llanelli. Mae’r cynlluniau cynnar yn cynnwys gwella’r seilwaith ar gyfer ymwelwyr (parcio, tai bach, llwybrau cerdded a phontŵn) a sicrhau gwelliannau i fioamrywiaeth mewn cydweithrediad â gwirfoddolwyr lleol.  Y nod yw ailgysylltu pobl â’r dŵr a’n hamgylchedd prydferth wrth amddiffyn, cynnal a gwella gwerth cadwraeth y safle.

Mae Cronfeydd Dŵr Cwm Lliedi (Swiss Valley) sy’n amgylchynu canolfan drefol Llanelli yn Sir Gaerfyrddin eisoes yn lleoliad pwysig i’r bobl leol, ac mae’n boblogaidd gyda cherddwyr, pysgotwyr bras a theuluoedd fel ei gilydd.  Yn sgil pryderon am ddirywiad y seilwaith o amgylch y gronfa ddŵr, awgrymodd Dŵr Cymru’r syniad o feithrin partneriaeth gyda chorff profiadol fel Cyngor Gwledig Llanelli nôl ar ddechrau 2018.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, “Dyma garreg filltir yn ein hymdrechion i ddatblygu’r ased yma sydd mor bwysig i’r gymuned. Fel cwmni nid-er-elw, rydyn ni mewn perchnogaeth ar ran ein cwsmeriaid – ac rydyn ni am greu hyb cynaliadwy y gall pawb ei fwynhau am nad yw lle gwyrdd a glas yn yr awyr agored erioed wedi bod yn bwysicach. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y bartneriaeth hon yn darparu glasbrint go iawn ar gyfer cynlluniau mabwysiadu cymunedol eraill yn y dyfodol. Ni fyddai hyn byth wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth a brwdfrydedd Cyngor Gwledig Llanelli”.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Giles Morgan, sy’n cynrychioli ward lleol Cwm Lliedi, “Mae gan drigolion Cwm Lliedi, Llanelli a’r tu hwnt feddwl mawr o’r Gronfa Ddŵr. Mae cyffro mawr yn y gymuned am y syniad o dorri tir newydd gyda’r cynllun mabwysiadu yma rhwng Dŵr Cymru a Chyngor Gwledig Llanelli.  Mae pobl yn awyddus i weld buddsoddiad ariannol yn y gronfa, ond maen nhw’n cynnig buddsoddi eu hamser eu hunain hefyd i ofalu am y “perl” yma o ased cymunedol.  Mae gan y cynllun gefnogaeth lwyr fy nghymuned, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iddo gychwyn.”

 

Bydd datblygu cronfeydd dŵr Cwm Lliedi at ddibenion mynediad a hamdden yn cynorthwyo adferiad gwyrdd yng Nghymru. Bydd yn helpu i gyflawni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd, sy’n gofyn bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau a’u bod yn gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd.  Trwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwledig Llanelli, mae Dŵr Cymru’n credu y gall Cwm Lliedi wneud cyfraniad positif at y weledigaeth o fodloni anghenion hamdden, iechyd a llesiant trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

 

Heddiw dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, Tegwen Devichand, “Rydyn ni wrth ein boddau i gael gweithio gyda Dŵr Cymru trwy gychwyn y cytundeb mabwysiadu cymunedol yma, y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Er bod y cytundeb cychwynnol am gyfnod o bum mlynedd, dim ond y dechrau yw hyn o ran y cyngor. Ein bwriad yw datblygu’r gronfa ddŵr mewn ffordd sensitif dros amser fel y daw’n gyrchfan poblogaidd i bobl o’r ardal leol a’r rhanbarth ehangach.

 

“Yn ogystal â diogelu ardal o harddwch naturiol lleol, rhywbeth rydyn ni’n arbennig o gyffrous yn ei gylch yw ein bwriad i ychwanegu at y cynnig cyfredol trwy ddatblygu cymysgedd o weithgareddau ar y dŵr a chyfleusterau eraill ar y safle gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer pysgota bras a chwaraeon rhwyfo, yn ogystal ag ailwampio’r bloc toiledau a’r maes parcio sydd yno ar hyn o bryd. Rydyn ni’n credu y bydd y gwelliannau cyntaf yma’n eang eu hapêl gyda’r gymuned leol wrth gydategu ac ychwanegu at fwynhad o’r atyniad ymwelwyr naturiol bendigedig yma. Yn ogystal, rydyn ni’n bwriadu creu swydd Gofalwr amser-llawn er mwyn helpu gyda rheolaeth y safle.”

 

Ymhlith pryderon y bobl leol o ran ‘llesiant’ mae ansawdd ac argaeledd ardaloedd chwarae a gwyrdd, lefel ymrwymiad y cyhoedd wrth gadw’r amgylchedd yn lân; diffyg amwynderau lleol; ac unigrwydd, diffyg cwmni a diffyg cyfleoedd i gymdeithasu. Mae cadw’r ardal yn lân a hyrwyddo mwy o gysylltiad o du’r gymuned wrth fynd i’r afael â’r problemau hyn yn flaenoriaethau pendant ym mhob rhan o’r prosiect yma.

(DIWEDD)

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mark Galbraith (Cyngor Gwledig Llanelli) [email protected] neu 01554 774103 neu Sarah Vining (Dŵr Cymru) [email protected]

Print Friendly, PDF & Email