Ionawr 23rd, 2019

Cyngor Gwledig Llanelli yn Parhau i Gefnogi Achosion Da yn yr Ardal

Wrth i Gyngor Gwledig Llanelli barhau i gefnogi achosion da megis Ambiwlans Awyr, cyflwynodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Sian Caiach, ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Tegwen Devichand, siec o £500 i Ambiwlans Awyr Cymru y Plant a siec o £1000 i Ambiwlans Awyr Cymru yn eu gorsaf Awyr yn Dafen ar Ddydd Mercher 23 Ionawr 2019.

Rhoddodd staff a gwirfoddolwyr gorsaf awyr Ambiwlans Awyr Cymru gyflwyniad llawn gwybodaeth ar y gwaith a gyflawnir gan yr elusen. Mae gorsaf awyr Dafen, sy ar gyfer De Cymru, yn un o bedair gorsaf awyr yng Nghymru ac mae’r nifer hwn yn golygu bod ambiwlans awyr o fewn cyrraedd 20 munud i ffwrdd yn unig. Mae ambiwlans awyr yn cynnwys offer o’r radd flaenaf sy’n cludo adran damweiniau ac argyfwng yr ysbyty yn effeithiol i safle’r ddamwain. Mae’r elusen yn dibynnu’n llwyr ar godi arian a bu ganddyn nhw 3,000 o deithiau yn 2018, eu blwyddyn brysuraf ar gofnod.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymroddedig i wasanaethu pobol yng Nghymru. Maen nhw ar standby bob dydd o’r flwyddyn. yn barod i helpu unrhyw un yn ystod eu hawr fwyaf anodd. Mae Ambiwlans Awyr Cymru y Plant yn adran arbenigol o’r elusen gan fod angen ystod o driniaethau gwahanol ar y cleifion iau. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu gofal arbenigol sydd ei angen ar gleifion pediatrig a newyddenedigol sydd angen cefnogaeth awyr.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Tegwen Devichand: “ Fel Cyngor rydyn ni’n hoffi cynorthwyo achosion gwerthchweil yn ariannol megis Ambiwlans Awyr Cymru a leolir yn ardal Wledig Llanelli yma yn Dafen. Roedd hi’n fraint clywed rhai o’r storiâu heddiw a rhoddodd hyn gipolwg i ni o’r gwaith anhygoel a gyflawnir gan y peilotiaid a’r meddygon.”

(Yn y llun o’r chwith i’r dde:Cydweddog Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, Joyce Walters, Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, Cyngh Tegwen Devichand, Steffan Anderson-Thomas Ambiwlans Awyr Cymru, Cyngh John Evans, Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cyngh Sian Caiach, Swyddog Datblygu Cyngor Gwledig Llanelli, Darren Rees)  

(DIWEDD)

Am mwy wybodaeth, cyswllt:
Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Gwledig Llanelli, Darren Rees ar 01554 774103

Print Friendly, PDF & Email