CYNGOR GWLEDIG LLANELLI YN DATHLU AIL-ACHREDIAD GYDA GWOBR URDDASOL BUDDSODDWYR MEWN POBL
Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn falch o gyhoeddi ei fod wedi llwyddo i gael ei ail-achredu gyda gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl (BMP), gan gadarnhau ei ymrwymiad cryf a pharhaus i’w weithlu ac i ragoriaeth sefydliadol.
Mae’r ail-achrediad yn dilyn asesiad annibynnol trylwyr a gydnabu ddiwylliant gweithle cadarnhaol y cyngor, arweinyddiaeth effeithiol, a buddsoddiad parhaus mewn datblygu staff. Mae achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn safon a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n mesur sut mae sefydliadau’n arwain, yn cefnogi ac yn datblygu eu pobl er mwyn cyflawni canlyniadau cynaliadwy.
Tynnodd yr asesiad sylw at ffocws y cyngor ar werthoedd clir, llywodraethu cryf, cyfathrebu agored ac ymrwymiad a rennir i welliant parhaus. Cydnabuwyd staff ac aelodau am eu proffesiynoldeb, eu hymroddiad a’u balchder wrth ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gymunedau lleol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Evans: “Rydym yn hynod falch o fod wedi cyflawni ail-achrediad gyda Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu gwaith caled, proffesiynoldeb ac ymrwymiad ein staff a’n haelodau, ac yn gosod Cyngor Gwledig Llanelli yn gadarn ar flaen y gad yn y sector cynghorau tref a chymuned yng Nghymru fel sefydliad sy’n dangos safonau uchel yn gyson mewn arweinyddiaeth a datblygu pobl. Mae buddsoddi yn ein pobl yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n cymunedau.”
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i adeiladu ar y cyflawniad hwn drwy barhau i gefnogi cyfleoedd dysgu, lles a datblygu i staff, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i ymateb i anghenion esblygol trigolion a rhanddeiliaid.
