Mehefin 5th, 2019

Cyngor Gwledig Llanelli yn Dweud Diolch i’w Wirfoddolwyr

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr eleni, mae Cyngor Gwledig Llanelli yn dweud diolch i’w wirfoddolwyr am roi o’u hamser i helpu i ddarparu gwasanaethau cymunedol pwysig. Ar 4 Mehefin gwahoddodd Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cyng. Sharen Davies, gynrychiolwyr gwirfoddol o blith gwahanol sefydliadau a phrosiectau ardal Llanelli Wledig i Siambr y Cyngor.

Mae gan y Cyngor lawer o wirfoddolwyr sy’n ei helpu i ddarparu gwasanaeth cymunedol. Mae pob un o’i naw neuadd gymunedol yn cael eu rhedeg gan bwyllgorau gwirfoddol. Mae’r prosiect Cyfeillion Stryd yn recriwtio gwirfoddolwyr ac yn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymunedol i’r rhai, sydd eu hangen. Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Tempo trwy ddarparu rhaglen bancio amser sydd wedi profi’n ffordd effeithiol i gael pobl i wirfoddoli am y tro cyntaf.

Mae wedi bod yn bolisi’r Cyngor ers blynyddoedd lawer i bobl leol reoli ei neuaddau cymunedol. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn helpu mewn sawl ffordd, gan gynnwys trefnu archebion, anfonebu cwsmeriaid, trefnu amserlen lanhau, paratoi’r ystafelloedd ac agor a chau adeiladau. Mae’r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu yn rhywbeth y mae’r Cyngor yn teimlo y gellid wneud orau gan drigolion y gymuned a’u gwybodaeth leol.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi gwneud i’r Cyngor ystyried sut mae’n mynd ati i weithredu. Un canlyniad yw meithrin rhaglen cefnogi gwirfoddolwyr. Mae rhagor o fanylion am sut mae’r Cyngor yn perfformio yn ei Adroddiad Blynyddol 2018/19 i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin. Mae’r adroddiad ar gael i’w weld ar wefan Cyngor Gwledig Llanelli.

 

Yn siarad yn y digwyddiad,  dywedodd y Cyng. Davies, “Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn gwneud ei orau i alluogi cyfleoedd gwirfoddoli i’w trigolion drwy arwain ar y prosiect Cyfeillion Stryd, gan ddarparu rhaglen Credydau Amser, sicrhau bod grantiau cymunedol ar gael a thrwy ddarparu cyfleusterau cymunedol o ansawdd. Ni ellir tanbrisio gwerth gwirfoddolwyr ac rydym yn dymuno gwneud mwy i feithrin hyn. Mae’r prosiect Cyfeillion Stryd yn un enghraifft o sut rydym yn ceisio cyflawni hyn. Hoffwn fynegi fy niolch a’m gwerthfawrogiad i’r holl wirfoddolwyr, sy’n cefnogi’r digwyddiad heddiw am y gwaith y maent yn ei wneud er lles y gymuned ac am gyfrannu’r peth mwyaf gwerthfawr hynny, sef amser ”.

 

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cyng. Tegwen Devichand “Fel Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith a wneir gan wirfoddolwyr yn y gymuned. Mae gennym ddulliau cefnogi amrywiol i alluogi hyn fel cyllid grant a darpariaeth mannau ac offer cymunedol. Mae ein Swyddog Datblygu Cymunedol, Darren Rees, yn cynorthwyo grwpiau cymunedol gyda gwahanol faterion. Mae ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu diweddaru’n gyson ac maent yn dal llawer o wybodaeth i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol. ”

 

(DIWEDD)

Print Friendly, PDF & Email