50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Rhagfyr 18th, 2020

Cymunedau i gael cymorth ychwanegol wrth i Gyfrifiad 2021 nesau

Datganiad i’r wasg gan Cyfrifiad 2021

Bydd cymunedau yn Sir Gar a Sir Benfro yn cael cymorth ychwanegol wrth i Gyfrifiad 2021 nesáu

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi penodi Rheolwr Ymgysylltu’r Cyfrifiad i gefnogi trigolion Sir Gar a Sir Benfro a helpu i wneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant.

Bydd Nia Taylor, Rheolwr Ymgysylltu’r Cyfrifiad yr ardal, yn helpu sefydliadau, elusennau a grwpiau ffydd ac arweinwyr cymunedol yn y ddau Sir i godi ymwybyddiaeth o’r cyfrifiad a pha mor bwysig yw sicrhau bod trigolion yn cymryd rhan.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd yw’r cyfrifiad ac mae’n cynnig ciplun o gartrefi yng Nghymru a Lloegr sy’n helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd gofyn i bawb ledled Cymru a Lloegr gymryd rhan a bydd y wybodaeth y bydd pobl yn ei rhannu yn penderfynu sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u hariannu. Yn y pen draw, bydd yn sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau brys, gofal iechyd, lleoedd mewn ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill.

Dywedodd Pete Benton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Cyfrifiad: “Mae rheolwyr ymgysylltu’r cyfrifiad a’r cynghorwyr cymunedol rydym wedi’u penodi yn chwarae rôl hollbwysig wrth sicrhau bod pawb yn deall pam mae’r cyfrifiad yn bwysig a gwneud yn siŵr bod pob cartref ledled Cymru a Lloegr yn gwybod pam mae’n bwysig cymryd rhan a sut i gael yr help sydd ei angen arnynt.”

Am y tro cyntaf, bydd y cyfrifiad yn cael ei gynnal ar lein yn bennaf, gan ei gwneud hi’n haws i’r rhan fwyaf o bobl lenwi’r holiadur ar unrhyw ddyfais – boed yn gyfrifiadur, yn ffôn symudol neu’n llechen. Bydd canolfannau cymorth lleol y cyfrifiad yn cynnig help, a bydd holiaduron papur ar gael i’r bobl hynny y bydd eu hangen arnynt. Bydd holl staff y cyfrifiad yn gweithredu yn unol â chanllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar COVID-19.

Bydd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiwn newydd am gyn-filwyr Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, ynghyd â chwestiynau gwirfoddol am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd i’r rhai sy’n 16 oed a throsodd.

Caiff y cyfrifiad ei gynnal ar 21 Mawrth 2021. Er y bydd canlyniadau ar gael y flwyddyn ganlynol, bydd yr holl gofnodion personol yn cael eu cadw dan glo am 100 mlynedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk

I gael gafael ar eich rheolwr ymgysylltu’r cyfrifiad/cynghorydd cymunedol lleol, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Nia Taylor – [email protected]

Print Friendly, PDF & Email