Mawrth 20th, 2018

Ardal chwarae newydd yn chwythu tân i Felinfoel

DATGANIAD I’R  WASG – I’W RYDDHAU AR UNWAITH

Agorwyd ardal chwarae newydd yn swyddogol yn Felnfoel heddiw (20 Mawrth 2018) gan Gadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd John Evans. Mwynheuodd plant o Ysgol y Felin ychydig o amser allan o’r dosbarth yn yr haul, lle derbynion nhw fagiau o bethau da a ddarparwyd gan Wicksteed Playgrounds fel diolch am eu rôl yn helpu i ddewis y cynllun terfynol ar gyfer y maes chwarae.

Agorwyd yr ardal chwarae i’r cyhoedd  yn ystod hanner tymor mis Chwefror ac mae wedi profi i fod yn boblogaidd iawn gyda pobol ifanc a rhieni yn Felinfoel. Mae’n cynnwys nifer o orsafoedd chwarae i grwpiau oedran gwahanol yn cynnwys wal ddringo sydd ar ffurf cerflun o ddraig. Mae’r maes chwarae newydd, a ddarparwyd ac a gynhelir gan Gyngor Gwledig Llanelli, wedi’i leoli y tu ôl i Ynyswen ar dir rhwng Caeau Chwarae King George ac Ysgol y Felin. Gellir mynd iddo ar hyd llwybr troed newydd wedi’i leoli rhwng yr ysgol a’r tai sydd yn Ynyswen.

Mae’r maes chwarae wedi’i ariannu’n llawn gan Gyngor Gwledig Llanelli ar ôl i’r tir gael ei drosglwyddo oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin o dan les o 99 mlynedd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Tegwen Devichand, “ Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu cynnig y cyfleuster hwn roedd ei fawr angen i gymuned Felinfoel. Fel Cyngor rydyn ni wedi bod yn ymdrechu ers blynyddoedd i godi arian ar gyfer maes chwarae i Felinfoel ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y man hwn. Fe hoffwn i ddiolch i Mrs Wynne, ei staff a disgyblion Ysgol y Felin am eu cydweithrediad trwy gydol y broses ac i’r gymuned a fynychodd yr ymgynghoriadau cyhoeddus”.

(Yn y llun o’r chwith i’r dde : Llywodraethwr Ysgol Y Felin Hugh Richards, disgyblion Ysgol Y Felin, Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli a Cynghorydd i Ward Felinfoel, John Evans.)

(DIWEDD) 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Gwledig Llanelli, Darren Rees ar 01554 774103

Print Friendly, PDF & Email