Cyfle ar gyfer Swyddog Gweithredol – arwain, cynghori, ysbrydoli!
Clerc i Gyngor Gwledig Llanelli
Ydych chi’n barod i gymryd yr awenau yn un o gynghorau mwyaf gweithgar a chymunedol Sir Gaerfyrddin ac un o’r cynghorau cymuned mwyaf yng Nghymru?
Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn chwilio am ‘Glerc i’r Cyngor’ deinamig, sy’n edrych ymlaen at arwain ei weithrediadau gweinyddol a dinesig. Nid swydd yn unig yw hon, mae’n gyfle i lunio dyfodol llywodraethu lleol, gyrru mentrau cymunedol, a bod yn gynghorydd dibynadwy i aelodau etholedig.
Lleoliad: Adeiladau Vauxhall, Llanelli
Dyddiad Cau: 31 Ionawr 2026
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
– Gweithredu fel y Swyddog Priodol, gan sicrhau bod y cyngor yn bodloni’r holl rwymedigaethau cyfreithiol a statudol.
– Cynghori cynghorwyr ar bolisi, llywodraethu a gweithdrefnau – bydd eich arbenigedd yn llywio penderfyniadau allweddol.
– Rheoli tîm talentog gan gynnwys y Dirprwy Glerc (Swyddog Ariannol Cyfrifol) a’r Rheolwr Llywodraethu a Phrosiectau gan gynnwys tîm cefnogol o 45 aelod arall o staff wedi’u gwasgaru ar draws Adrannau Gweinyddu a Hyfforddiant y cyngor a’i bersonél cynnal a chadw tiroedd.
– Goruchwylio gwasanaethau, adeiladau, tir ac adnoddau’r cyngor gyda gweledigaeth strategol gan gynnwys goruchwylio trosiant cyllideb flynyddol y cyngor o £3.8 miliwn ar y cyd â’r Dirprwy Glerc (SAC).
– Arwain adolygiad a datblygiad Cynllun Strategol y cyngor, y Cynllun Lle Cyfan, a chynlluniau gwasanaeth blynyddol gan gynnwys, fel blaenoriaeth uniongyrchol, cychwyn paratoadau’r cyngor ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2027.
– Cynghori ar gyfraith mynwentydd a gwasanaethau cysylltiedig wrth redeg Mynwent Ardal Llanelli yn rhinwedd eich swydd fel Ysgrifennydd Pwyllgor Ymgynghorol Claddedigaethau ar y Cyd Llanelli.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:
– Arweinydd hyderus gyda sgiliau trefnu, cyfathrebu a negodi cryf.
– Rhywun sy’n ffynnu ar gyfrifoldeb ac sy’n gallu jyglo blaenoriaethau cymhleth.
– Meddyliwr strategol sydd â brwdfrydedd dros wasanaeth cyhoeddus a datblygu cymunedol.
– Yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar y Dystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol (CiLCA) neu’n barod i’w chael neu feddu ar gymwysterau lefel uwch perthnasol eraill sy’n seiliedig ar y sector.
Pam ymuno â ni:
– Byddwch yn rhan o gyngor sydd â gwreiddiau dwfn yn ei gymuned ac sydd wedi ymrwymo i arloesi.
– Gweithio mewn amgylchedd cefnogol lle bydd eich syniadau a’ch arweinyddiaeth yn cael effaith wirioneddol; mae’r cyngor yn sefydliad Buddsoddwr mewn Pobl.
– Mwynhau rôl amrywiol sy’n cyfuno cyfraith, llywodraethu, strategaeth, datblygu cymunedol, rheoli pobl, ac ymgysylltu dinesig
Yn barod i wneud cais:
Os ydych chi’n llawn cyffro am y cyfle i arwain a llunio llywodraeth leol yn Llanelli, rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gael yn y dolenni pecyn cais isod.
Pecyn Cais:
Clerk to Llanelli Rural Council – covering letter and guidance notes
Clerk to Llanelli Rural Council – job description and person specification
Clerk to Llanelli Rural Council – application form
Clerk to Llanelli Rural Council -application support form
Llanelli Rural Council – information
