Hyfforddiant LRC

Am Hyfforddiant LRC

Sefydlwyd Hyfforddiant LRC, a enwyd yn wreiddiol yn ETMA, gan Gyngor Gwledig Llanelli ym 1988. Ei bwrpas oedd darparu profiad gwaith a hyfforddiant i oedolion di-waith. Daeth yn ddarparwr Dysgu Seiliedig ar Waith cymeradwy ym 1990. Mae Hyfforddiant LRC yn parhau i ddarparu rhaglenni Prentisiaeth a Thwf Swyddi Cymru+ llwyddiannus. Mae’n parhau i fod yn adran hunangyllidol o fewn Cyngor Gwledig Llanelli.

Ewch i’n gwefan yn http://www.lrctraining.org.uk/

Mae hyfforddiant LRC yn parhau i gyflwyno rhaglen Twf Swyddi Cymru+ lwyddiannus ledled Sir Gaerfyrddin i ddysgwyr ifanc, 16-19 oed, i symud ymlaen i ddysgu lefel uwch, cyflogaeth neu swyddi gwirfoddol. Mae gan ddysgwyr y cyfle i ennill cymwysterau mewn Sgiliau Hanfodol, Sgiliau Cyflogadwyedd, Cyflawni, Hunanddatblygiad a Llesiant, Cynaliadwyedd ar Waith a Gweithrediadau Warws.

Mae rhaglenni prentisiaeth llwyddiannus Hyfforddiant LRC yn parhau i dyfu o nerth i nerth. Mae prentisiaethau ar gael ar lefel 2, 3 a 4 mewn Busnes a Gweinyddiaeth, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gweithrediadau Logisteg, Warws a Storio, Cludiant Teithwyr Ffordd, Rheoli Cadwyn Gyflenwi a Gyrru Cerbydau Nwyddau. Mae caffael trwydded LGV ar gael o fewn fframwaith Gyrru Cerbydau Nwyddau.