Cyfarfodydd y Cyngor

Rhaid i’r cyngor wneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer ei gyfarfodydd i sicrhau y gallant ddigwydd mewn modd sy’n galluogi pobl nad ydynt yn yr un lle i gyfarfod.

O dan y trefniadau hyn, rhaid gallu cynnal cyfarfodydd o bell (cyfarfodydd aml-leoliad) ond nid oes angen cynnal cyfarfodydd mewn ffordd arbennig. Mater i’r cyngor yw penderfynu a ydynt yn cael eu cynnal o bell neu’n gyfan gwbl wyneb yn wyneb.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r cyngor sicrhau bod cyfranogwyr y cyfarfodydd (cynghorwyr, gwesteion gwadd, aelodau’r cyhoedd a’r wasg) yn gallu ymuno â chyfarfodydd o bell hyd yn oed os mai cyfarfodydd wyneb yn wyneb corfforol yw’r modd dewisol. Ni chaniateir i’r cyngor benderfynu y bydd ei holl gyfarfodydd (mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd pwyllgor ac is-bwyllgor) yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl wyneb yn wyneb.

Bydd holl gyfarfodydd y cyngor (gan gynnwys cyfarfodydd pwyllgor ac is-bwyllgor) yn cael eu cynnal mewn modd sy’n galluogi cyfranogwyr nad ydynt yn yr un lle i gyfarfod, gyda’r gofyniad lleiaf bod aelodau’r cyngor yn gallu clywed a chael eu clywed gan gyfranogwyr eraill y cyfarfod.

Rhybudd o gyfarfodydd

O leiaf dri diwrnod clir (heb gynnwys y diwrnodau cyhoeddi a chyfarfod) cyn cynnal cyfarfod o’r cyngor, neu os caiff y cyfarfod ei gynnull ar fyr rybudd, ar yr adeg y caiff ei gynnull, bydd hysbysiad o amser a lleoliad y cyfarfod yn cael eu harddangos ar y wefan hon ac ar hysbysfwrdd cyhoeddus y cyngor. Fodd bynnag, gall cadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor alw cyfarfod ar rybudd o 24 awr os ystyrir bod mater i’w drafod yn fater brys.

Cyhoeddir manylion trefniadau cyfarfodydd y cyngor ar y wefan hon ac ar yr hysbysfwrdd cyhoeddus. Sgroliwch i lawr i weld amserlen y cyfarfodydd sydd i ddod.

Mynediad i gyfarfodydd

Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 Mae Adran 1, a estynnwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Adran 100, yn darparu y bydd cyfarfodydd y cyngor (gan gynnwys pwyllgorau ac is-bwyllgorau) yn agored i’r wasg a’r cyhoedd.

Os hoffech fynychu cyfarfod penodol, cysylltwch â Chlerc y Cyngor drwy glicio yma, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt yma neu gallwch ffonio swyddfa’r cyngor yn ystod oriau gwaith arferol.

Bydd amrywiaeth o opsiynau ar gael i chi i fod yn bresennol yn bersonol ym mhrif leoliad y cyfarfod neu o bell (drwy wahoddiad electronig neu dros y ffôn) os dymunwch.

Yn achlysurol yn ystod cyfarfodydd gwneir darpariaeth ar gyfer gwahardd y wasg a’r cyhoedd trwy benderfyniad pan fo busnes cyfrinachol yn cael ei ystyried (neu am resymau arbennig eraill a nodir yn y penderfyniad) ac y byddai cyhoeddusrwydd yn niweidiol i fudd y cyhoedd. Fel rheol gyffredinol ni fyddai eitemau megis materion staffio, penderfyniadau tendro, trafodaethau cytundebol, achosion cyfreithiol a materion neu anghydfodau sensitif yn cael eu trafod yn gyhoeddus.

Cyfranogiad cyhoeddus

Mae’n ofynnol i’r cyngor hwyluso cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd llawn y cyngor. Nid yw hyn yn golygu y gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan mewn dadl, ond mae’n rhaid rhoi cyfle rhesymol iddynt ar ddechrau’r cyfarfod i ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau am y busnes sydd i’w drin a’i drafod yn y cyfarfod ac sy’n agored i drafodaeth gyhoeddus (ni chaiff busnes cyfrinachol ei gynnwys). Rhaid i’r sawl sy’n llywyddu cyfarfod y cyngor llawn (y cadeirydd fel arfer) roi cyfle rhesymol i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau am unrhyw fusnes i’w drafod yn y cyfarfod, oni bai bod gwneud hynny’n debygol o niweidio natur effeithiol y cyfarfod. Nid yw cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd y cyngor llawn yn berthnasol i gyfarfodydd pwyllgor ac is-bwyllgorau.

Atodlenni Cyfarfodydd y Cyngor

Isod mae rhestr o gyfarfodydd y cynghorau sydd ar ddod. Bydd agenda sy’n cynnwys papurau’r cyfarfod yn ymddangos wrth ymyl y cyfarfod perthnasol bum niwrnod cyn y dyddiad y disgwylir iddo gael ei gynnal. Mae’r rhain ar gael i’w llwytho i lawr.

Date / Dyddiad Schedule / Amserlen Agenda
Feb 17 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Feb 18 2026 Pwyllgor Dinesig a Seremoniol Agenda PDF
Feb 18 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau Agenda PDF
Feb 18 2026 Cyngor Arbennig Agenda PDF
Feb 18 2026 Cyngor Arbennig Agenda PDF
Feb 23 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Feb 25 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Mar 10 2026 Cyngor
Mar 16 2026 Pwyllgor Cynllinio a Chyswllt
Mar 17 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Mar 18 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Mar 25 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Apr 8 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Apr 14 2026 Cyngor
Apr 15 2026 Pwyllgor Dinesig a Seremoniol
Apr 15 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Apr 21 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Apr 27 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Apr 29 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Apr 30 2026 Pwyllgor Ymgynhorol Datblygiad a Dysg
May 12 2026 Cyfarfod Blynyddol
May 12 2026 Cyngor
May 18 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
May 19 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
May 20 2026 Pwyllgor Polisi ad Adnoddau
May 27 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Jun 8 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Jun 9 2026 Cyngor
Jun 16 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Jun 17 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Jun 24 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Jun 29 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Jul 14 2026 Cyngor
Jul 15 2026 Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Jul 20 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt
Jul 21 2026 Pwyllgor Lles a Hamdden
Jul 29 2026 Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyfredinol
Jul 30 2026 Pwyllgor Ymgynhorol Datblygiad a Dysg
Aug 10 2026 Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt