Hwb Llwynhendy

Rhagair

Croeso i’r dudalen ymgynghoriad ar gyfer cynigion Hwb Llwynhendy a Chaeau Gwili. Rydw i wedi bod yn gweithio’n galed gyda chydweithwyr yng Nghyngor Gwledig Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu cyfleuster cymunedol fydd yn cael ei werthfawrogi ynghyd â’i ddefnyddio’n gyson gan drigolion Llwynhendy. Mae yna ddiffyg gwasanaethau cymunedol ac argaeledd gofodau yn yr ardal. Rydw i’n gwybod hyn ar ôl blynyddoedd o drafod gyda thrigolion yn fy ngwaith fel Cynghorydd Sir ac yn fy rôl gyda’r Cynghorydd Jason Hart ar Fforwm Llwynhendy a Pemberton, yn ogystal â nifer o ymgynghoriadau cymunedol.

Ar ôl derbyn cyllid trwy raglen Ein Llwynhendy Buddsoddi’n Lleol, wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri, mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi comisiynu astudiaeth dichonoldeb i edrych ar y caeau gwyrdd yn Heol Gwili a’r adeilad llyfrgell.  Yr hyn sy’n dilyn yw crynodeb o’r broses honno.

Cyng. Sharen L Davies

Cadeirydd

Cyngor Gwledig Llanelli

Cefndir

Ym mis Ionawr 2020, cychwynnodd Cyngor Gwledig Llanelli, mewn partneriaeth gyda Ein Llwynhedy Ni (a gyllidir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol) ar astudiaeth ddichonoleb ar gyfer Caeau Heol Gwili. Mae’r astudiaeth wed edrych ar y llecyn gwyrdd ac ar ganolfan gymunedol bosibl a fydd yn gweithio gyda’r llyfrgell presennol, gan adeiladu lle ychwanegol i gynnal amrywiol weithgareddau a gwasanaethau. Bydd hyn yn helpu gwella llesiant i bob grŵp oedran.

Mae’r daflen grynhoi hon yn ganlyniad proses 6 mis sy wedi darparu nifer o gyfleoedd i’r gymuned leol a rhanddeiliaid i gymryd rhan yn ffurfio’r cynigion terfynol. O deithiau arfer gorau i Rydaman a Brynaman, o weithdy rhanddeiliaid lleol i nifer o ymgynghoriadau lleol, mae’r broses wedi bod yn hygyrch a chynhwysol. Hyd yn oed gyda dyfodiad y pandemig coronafeirws ym mis Mawrth 2020, mae’r broses astudiaeth wedi addasu ac wedi ymgyrraedd at gymaint o bobol ag oedd yn bosibl trwy ddulliau traddodiadol ac arlein.

Y Ganolfan

Mae angen y gymuned am le i ddwyn at ei gilydd fywyd cymunedol, lle i gwrdd â ffrindiau a gwella sgiliau byw yn ogystal â dathlu achlysuron wedi bod yn flaenoriaeth allweddol ers sawl blwyddyn, gyda’r Cae yn lle am ddigwyddiadau, dod at ei gilydd yn anffurfiol ac yn lle i blant ifanc chwarae ynddo.

Mae’r astudiaeth wedi ymateb trwy adeiladu ar etifeddiaeth adeilad presennol y llyfrgell sy ddim yn wastraff ond yn gwerthfawrogi ei bresenoldeb a’i effaith ar drigolion lleol ac adeiladu ar hyn gydag ôl traed adfywiol ac estynedig

Y bwriad yw rhoi cladin dros yr adeilad presennol gan roi iddo deimlad ffres a chyfoes. Caiff y ffenestri sy’n astellog ar hyn o bryd eu hadnewyddu, gan ychwanegu gwydriad i roi golwg groesawgar a bywiog gyda gofod llyfrgell ac ystafelloedd cyfarfod newydd.

I’r gogledd o’r adeilad presennol bydd llety estynedig. Bydd yr estyniad yn darparu gofodau hyblyg fydd yn ategu’r adeilad presennol. Bydd y gofodau hyn yn ystafelloedd mawr aml- ddefnydd.

Yn gorwedd rhwng yr adeilad presennol a’r estyniad arfaethedig bydd mynediad cynhwysol croesawgar newydd. Bydd yn darparu ‘mat croeso’ i’r cyfleuster gan gysylltu’r hen a’r newydd gyda’i gilydd gyda chaffi cymunedol yn galon i’r cyfan.

Y Cae

Mae’r cynigion ar gyfer y Cae yn edrych ar greu cyfleuster sy’n helpu i gefnogi anghenion hamdden y gymuned trwy gyfleusterau a defnydd ar gyfer oedrannau cymysg. Mae’r cynllun yn awgrymu y gellir creu gardd gwlyptir tawel i’r gogledd o estyniad yr hwb. Hefyd o dan ystyriaeth mae ardal chwarae organig a naturiol i blant yn agos i’r Ardal Gemau Aml Ddefnydd presennol. Er mwyn mynd i’r afael â natur corslyd y cae, cynigir plannu mwy o goed. Ynghanol yr ardal mwy coediog hon yng nghornel gogleddol y cae presennol, awgrymir creu ardal picnic a barbeciw, fydd yn annog gweithgareddau a chynulliadau cymdeithasol.

Yn ychwanegol at y lleoedd uchod sydd wedi’u seilio ar ofodau a gweithgareddau gweddol diffiniedig, mae angen darparu ardal awyr agored mwy hyblyg. Gellir defnyddio hon ar gyfer cicio pêl, partion a digwyddiadau awyr agored megis garddwesti a charnifals. Ystyrir hyn i gornel de ddwyrain y cae presennol.

Y Camau Nesaf

Wrth barhau â’r prosiect hwn, mae rheolaeth a llywodraethu’r Hwb a’r Cae yn ffactor llwyddiant hollbwysig ar gyfer datblygiad, cyflwyno, a rhedeg yr ased cymunedol hwn yn y dyfodol. Mae angen i bartneriaid oruchwylio datblygiad pellach y cynllun, gweithredu a rhedeg yr adeilad a’r caeau o ddydd i ddydd. Mae angen hefyd chwilio am gyllid  a dal gafael ynddo gan fod y ddogfen hon yn ffres ac yn cynrychioli barn Llwynhendy ar hyn o bryd. Mae angen hefyd arolygon safle ffisegol, datblygiad cynllun manwl a sicrhau caniatad am waith yn y dyfodol i arddangos i’r rhai sy’n cyllido fod y weledigaeth a’r cynlluniau ar gyfer Caeau Gwili yn gadarn.

Mae Coronafeirws wedi dangos i ni hefyd ddaioni ac ysbryd pobol, gan eu bod yn gymdogol, ac yn helpu allan a gofalu am ei gilydd. Mae hyn wrth galon Llwynhendy gyda hwb cymunedol newydd ac ardal cae gwell sy’n cefnogi’r synnwyr yn y dyfodol o berthyn a lles ehangach ei drigolion.

Gwirfoddoli

Wrth gynnal cyflymdra’r datblygiad a chyflwyno’r cynigion hyn yn y dyfodol, mae’r Cyngor Gwledig ac Ein Llwynhendy Ni angen cefnogaeth a chymorth oddi wrth drigolion a grwpiau lleol. Mae rhai ohonoch chi wedi cynnig helpu gyda chodi arian, gwirfoddoli ar y prosiectau Cae yn ogystal â chynnig eich amser yn yr adeilad hwb cymunedol yn y dyfodol.

Os ydych chi am wybod mwy cysylltwch â Darren Rees yng Nghyngor Gwledig Llanelli ar 01554 neu ebostiwch ar [email protected]

Print Friendly, PDF & Email