Gwasanaethau Hamdden
1. Caeau Chwaraeon
Mae’r Cyngor yn gofalu am dri chae chwarae yn Felinfoel, Pum Heol a Phonthenri ble y chwaraeir criced, pêl droed a rygbi. Polisi’r Cyngor yw peidio codi tâl ar glybiau am chwarae ar ei gaeau. Mae’r Cyngor hefyd yn gofalu am gaeau rygbi Clwb Rygbi Pontiets, gan fod y cyfleusterau yn agos at ffin y Cyngor gyda chyngor cymuned arall.
Darperir cyfleusterau ystafelloedd newid yn Felinfoel a Phonthenri.
2. Llecynnau Chwarae i Blant
Mae gan y Cyngor saith llecyn chwarae i blant yn y mannau canlynol:-
- Heol y Berwig, Bynie
- Cynheidre;
- Cae Chwarae Felinfoel;
- Cae Chwarae Pum Heol;
- Cae Chwarae Ponthenri;
- Tir Einon, Llwynhendy;
- Amanwy, Llwynhendy.
3. Llwybrau Cerdded
Mae’r Cyngor yn gofalu am rwydwaith o 43 milltir o lwybrau cerdded ledled yr ardal. Mae hynny’n golygu clirio, arwynebu, atgyweirio a gosod camfeydd, gatiau, arwyddion ac ati ar tua 120 tramwy cyhoeddus.
Os hoffech gysylltu â ni am gynnal a chadw llwybrau cerdded o fewn ardal weinyddol y Cyngor, gwasgwch yma.
4. Goleuadau Cyhoeddus
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am ynni a chynnal a chadw tua 230 o oleuadau cyhoeddus sy’n cael eu hystyried yn oleuadau troedffyrdd.
5. Arosfannau Bysiau
Mae darparu arosfannau bysiau yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng y Cyngor Gwledig a Chyngor Sir Caerfyrddin.
6. Carnifal Nadolig
Lluniwyd cytundeb teiran rhwng Cyngor Gwledig Llanelli, Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin i dalu am ddarparu goleuadau a charnifal Nadolig ynghanol tref Llanelli. Maent yn cael eu troi ymlaen ar ddiwedd mis Tachwedd bob blwyddyn ac mae’r digwyddiad yn denu torf enfawr o 20,000 o bobl i wylio’r sioe.
7. Swyddog Datblygu Rygbi
Lluniwyd cytundeb teiran tair blynedd rhwng Cyngor Gwledig Llanelli, Cyngor Tref Llanelli ac Undeb Rygbi Cymru i gyflogi Swyddog Datblygu Rygbi i ymweld ag ysgolion cynradd yn yr ardal i ddysgu ac annog plant i chwarae rygbi.
8. Swyddog Datblygu Pêl Droed
Lluniwyd cytundeb teiran tair blynedd rhwng Cyngor Gwledig Llanelli, Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin i gyflogi Swyddog Datblygu Pêl Droed i ymweld ag ysgolion cynradd yn yr ardal i ddysgu ac annog plant i chwarae pêl droed.
9. Darparu Ystafelloedd Newid
Adeiladodd y Cyngor ystafelloedd newid ym Mharc Ponthenri ar gyfer Clwb Pêl Droed Ponthenri am gost o £155,000. Ariannwyd y gwaith trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Gwledig Llanelli (49%), SPORTLOT (47%) a Chlwb Pêl Droed Ponthenri (4%).
10. Cymdeithas Plant a Phobl Ifanc Sir Gaerfyrddin
Noddwyd Cymdeithas Plant a Phobl Ifanc Sir Gaerfyrddin ers sawl blwyddyn gan Gyngor Gwledig Llanelli a chyrff eraill i ddarparu clybiau allan o’r ysgol, gwaith cartref, gwyliau ar gyfer plant lleol. Mae’r Cyngor yn cyfrannu £1,000 bob blwyddyn i’r Gymdeithas.
11. Mudiadau Chwaraeon Lleol
Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu polisi i roi cymorth ariannol i dimau chwaraeon lleol i dalu’r costau a godir gan Gyngor Sir Caerfyrddin am ddefnyddio ei gaeau chwarae. Rhoddir y grantiau blynyddol canlynol:-
- Clwb Pêl Droed Dafen - £600
- Clwb Bowlio Dafen - £300
- Clwb Criced Dafen - £600
- Clwb Bowlio Dafen Crusaders - £300
- Clwb Pêl Droed y Pwll - £600
- Clwb Criced y Pwll - £600
- Clwb Pêl Droed y Trallwm - £600
|