Gwasanaethau Cymunedol

1. Neuaddau Cymunedol

Mae’r Cyngor wedi codi naw neuadd gymunedol, sydd yn eu tro wedi cael eu cyflwyno i’r gymuned i weinyddu eu cyfrifoldebau beunyddiol. Mae’r neuaddau yn amlbwrpas ac fe’u defnyddir ar gyfer gwahanol weithgareddau e.e. grwpiau cyn-ysgol, sgowtiaid, aikido, clybiau cinio. Sefydlir pwyllgorau lleol i redeg y neuaddau ac i dalu rhai costau rhedeg, allan o ffïoedd llogi a digwyddiadau codi arian. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am yr holl waith cyfalaf ac mae hefyd yn rhoi grantiau tuag at y costau rhedeg. Mae’r neuaddau wedi’u lleoli yn yr ardaloedd canlynol:-

  • Brynmefys/Maengwynne (a elwir yn Brynmaen) - Ffwrnes;
  • Dafen – ym Mharc Dafen;
  • Pum Heol – Heol Hen, Pum Heol;
  • Ffwrnes - Heol Strade, Ffwrnes;
  • Ponthenri – Teras Bargoed, Ponthenri;
  • Sandy – Heol Sandy, Llanelli;
  • Saron – Heol Saron, Bynie;
  • Dyffryn y Swistir – Heol Nant, Dyffryn y Swistir;
  • Trallwm – Amanwy, Llwynhendy.

I wneud cais am restr o fanylion cyswllt, cliciwch yma

Clybiau Cinio2. Clybiau Cinio

Darparwyd clybiau cinio ar gyfer yr henoed ers 1990. Ar hyn o bryd mae gennym chwech clwb, sy’n cynnig pryd dau gwrs i’r defnyddwyr am £2.82. Mae manylion y clybiau cinio fel a ganlyn:-

  • Dydd Llun – Neuadd yr Eglwys Felinfoel
  • Dydd Mawrth – Neuadd Gymunedol Sandy
  • Dydd Mercher – Neuaddau Cymunedol Saron a’r Trallwm
  • Dydd Iau – Neuadd Gymunedol Dafen a Chanolfan Addysg Bellach y Pwll
  • Dydd Gwener – Neuadd Gymunedol Dafen

Am fanylion amseroedd dechrau a gwybodaeth bellach, cliciwch yma

3. Canolfan Ddydd i’r Henoed

Mae’r Cyngor, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llanelli, yn ariannu a gweinyddu’r Ganolfan Ddydd yn adeiladau’r YMCA yn Llanelli. Mae’r Ganolfan yn darparu ciniawau a byrbrydau i henoed yr ardal.

4. Grantiau i Fudiadau

Cynorthwyir mudiadau gwirfoddol bob blwyddyn trwy gyfrwng cyfraniadau ariannol. Mae clybiau chwaraeon ac ieuenctid, eglwysi a chapeli, Cyngor ar Bopeth ac ati yn cael grantiau rheolaidd oddi wrth yr Awdurdod.

Cyllideb Cymorth Ariannol o £3,000 – sy’n cael ei rhannu yn unol â pholisi’r Cyngor fel a ganlyn:-

  • £1,000 – dau gyfraniad o £500
  • £1,000 – 10 x £100 cyfraniad
  • £1,000 - £300 cyfraniad tuag at Gystadleuaeth Bobby Busters a’r £700 sy’n weddill yn cael ei gyfrannu yn symiau’n amrywio rhwng £25 a £75

Os ydych yn cynrychioli grŵp neu fudiad o fewn ardal weinyddol y Cyngor ac os hoffech wneud cais am gymorth ariannol, ysgrifennwch at y Cyngor yn esbonio pam fod angen ein cymorth arnoch.

Cyllideb Dyraniadau Ward o £10,000 – sy’n cael ei rhannu i’r Wardiau unigol yn ôl eu poblogaeth:-

  • Bynie - £1,469
  • Dafen - £1,631
  • Felinfoel - £926
  • Glyn - £966
  • Hengoed - £1,819
  • Pemberton - £2,032
  • Dyffryn y Swistir - £1,157

Caiff yr arian ei rannu gan gynghorwyr lleol y Ward i grwpiau a mudiadau lleol er mwyn cefnogi achosion haeddiannol.

5. Cronfa Datblygu Cymundeol

Crëwyd y cynllun grant hwn yn benodol i annog datblygu cymunedol yn ardal y Cyngor, ac mae ganddi gyllideb o £30,000.

Mae panel grantiau’r Cyngor yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (Mawrth a Medi) i ystyried ceisiadau am grant a’r uchafswm grant a roddir ar gyfer pob cais yw £5,000.

Os ydych chi'n dymuno llwytho pecyn cais am grant i lawr, defnyddiwch y dolenni isod

  • Ffurflen Gais am Grant Cronfa Datblygu Cymunedo (Saesneg yn unig)
  • Canllawiau'r Ffurflen Gais am Grant Cronfa Datblygu Cymunedol (Saesneg un unig)

6. Camau Arafu Traffig

Gosodwyd nifer o gamerâu cyflymdra yn Sir Gaerfyrddin. Lluniodd y Cyngor gytundeb partneriaeth i ariannu gosod camerâu cyflymdra am gost o £16,000, er mwyn galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau fod arian ar gael i ddarparu dau gamera arall yn ardal y Cyngor Gwledig.

Trefnwyd cynllun arafu traffig ar gyfer Felinfoel. Cyfrannodd y Cyngor Gwledig swm o £10,000 i alluogi’r cynllun i fynd yn ei flaen.

7. Cystadleuaeth Bobby Busters

Noddwyd Cystadleuaeth Bobby Busters ers blynyddoedd lawer gan Gynghorau Gwledig Llanelli a Thref Llanelli. Mae Swyddogion Cymunedol Heddlu Dyfed-Powys yn trefnu cystadlaethau rhwng ysgolion lleol i brofi eu gwybodaeth gyffredinol a’u hymwybyddiaeth o ddiogelwch ffyrdd. Mae’r Cyngor yn cyfrannu £300 bob blwyddyn tuag at y gystadleuaeth.

8. Heddlu Dyfed Powys

Bu Heddlu Dyfed-Powys a’r Cyngor yn amlygu peryglon cyffuriau yn y gymuned trwy ddefnyddio neuaddau cymunedol y Cyngor yn ganolfannau ar gyfer sioeau penffordd i annog pobl ifanc i ddod i ddysgu mwy am beryglon cymryd cyffuriau.